Codi arian prifysgol yn hwb i elusennau

Mike May, Rheolwr Cyllid Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru yn derbyn siec gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis  

Mike May, Rheolwr Cyllid Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru yn derbyn siec gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis  

12 Medi 2024

Cyflwynodd staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth siec am £7,984 i Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.

Yr achos hwn, sy’n achub bywydau, oedd Elusen y Flwyddyn y Brifysgol 2023-24.

Cafwyd ymdrechion i godi arian yn ystod y flwyddyn gan gynnwys tîm o’r Brifysgol yn rhedeg ras Aber10k, gweithgareddau i godi arian ar y campws, a blychau casglu yn y Graddio.

Yr ymdrech noddedig fwyaf uchelgeisiol oedd honno ddydd Gwener 5 Gorffennaf, pan gerddodd 20 o staff y Brifysgol ar draws Cymru, pellter o 38.5 milltir o Drefaldwyn i Fachynlleth.

Dywedodd Mike May, Rheolwr Cyllid Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru:  

“Diolch i Brifysgol Aberystwyth am ei chefnogaeth barhaus i’n helusen ledled Cymru, rydym yn gwerthfawrogi eich ymdrechion.  Mae’r Brifysgol wedi codi swm aruthrol i ni trwy amryw o ddigwyddiadau codi arian.” 

“Rhaid i’r Elusen godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i’n galluogi i ddarparu gwasanaeth 24-awr, 365 diwrnod y flwyddyn.  Bydd cefnogaeth trwy godi arian, fel yr ydym wedi’i derbyn gan y Brifysgol, yn ein helpu i gyrraedd y targed blynyddol hwn.  Mae Prifysgol Aberystwyth yn ein helpu i barhau i fod ar gael i bobl Cymru, pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Diolch yn fawr.”

Meddai’r Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor y Brifysgol: 

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth achub bywyd amhrisiadwy ar hyd a lled Cymru, ac fel cymuned Prifysgol mae'n bleser cyflwyno'r arian hwn fel cyfraniad tuag at ei waith anhygoel.”

HAHAV (Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref – Ceredigion) yw dewis y myfyrwyr a’r staff yn Elusen y Brifysgol am y Flwyddyn 2024-25.

Elusen sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr yw HAHAV. Mae’n cynnig cymorth i bobl ar draws Ceredigion sydd â chyflyrau na ellir eu gwella neu sy'n cyfyngu ar eu bywydau.  Mae’n darparu Gwasanaeth Gofal yn y Cartref, Gwasanaethau yn ymwneud â Galar, a gweithgareddau yn ei Chanolfan Byw'n Dda ym Mhenparcau, Aberystwyth.

Mewn ymateb, dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, cadeirydd HAHAV Ceredigion:

“Roeddem yn hynod o falch i glywed mai HAHAV Ceredigion, yr hosbis yn y cartref, a ddewiswyd gan y Brifysgol yn elusen y flwyddyn.

“Daw cefnogaeth y Brifysgol ar adeg dyngedfennol yn natblygiad yr elusen wrth i ni anelu i adnewyddu ac ailwampio ein canolfan byw yn dda ar gyrion Aberystwyth.  Ceredigion yw’r unig sir yng Nghymru sydd heb wasanaeth hosbis cydnabyddedig.

“Y nod yw ehangu ein cynllun gofal yn y cartref ar draws y sir tra byddwn yn datblygu’r ganolfan i fod yn addas i gwrdd â gofynion rhai sy’n dioddef o afiechydon difrifol sy’n cyfyngu ar eu bywyd.

“Edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio â’r Brifysgol yn y flwyddyn sydd i dod.”

Ychwanegodd Yr Athro Jon Timmis:

"Mae'r gwaith pwysig a wneir gan HAHAV wedi creu argraff fawr arnaf.  Mae'n ddewis teilwng i Elusen y Brifysgol am y flwyddyn sydd i ddod ac edrychaf ymlaen at weld pa syniadau am fentrau newydd i godi arian a ddaw i feddwl staff a myfyrwyr."

AU23024