Gwyddonwyr i brofi a yw’r eira yn toddi ar Everest

Dr Katie Miles a'r Athro Bryn Hubbard o Brifysgol Aberystwyth ar Everest.

Dr Katie Miles a'r Athro Bryn Hubbard o Brifysgol Aberystwyth ar Everest.

19 Medi 2024

Bydd gwyddonwyr yn mynd i Everest y flwyddyn nesaf i brofi a yw’r eira yno’n toddi, a fyddai’n peryglu cyflenwadau dŵr mwy na biliwn o bobl.

Er bod tymheredd yr aer yn dipyn yn is na sero ar fynydd uchaf y Ddaear, credir y gallai’r eira fod yn toddi o achos ymbelydredd ton-fer naturiol.

Os ydy’r ddamcaniaeth yn brofi yn gywir, gallai awgrymu bod y rhewlifoedd ym mynyddoedd yr Himalaya yn dadmer yn gyflymach na’r disgwyl.

Mae rhewlifoedd ym mynyddoedd uchaf y blaned yn ffynhonnell dŵr hynod o bwysig -  mae tua un biliwn o bobl yn dibynnu ar iâ mynyddoedd yr Himalaya gan gynnwys y rheini sy’n byw yn India, Myanmar, Pakistan a Bangladesh. 

Pe bai’n wir bod y rhewlifoedd yn dadmer yn gynt, yna gallai fygwth y cyflenwad dŵr. Perygl arall fyddai rhagor o lifogydd o ganlyniad i fethiant argaeau iâ naturiol, neu Llifogydd Ffrwydrad Llynnoedd Rhewlifol fel y’u gelwir.

Mae’r prosiect newydd yn dilyn canfyddiadau blaenorol gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Leeds a ddangosodd bod tymheredd yr iâ yn Rhewlif Khumbu yn nhroedfryniau Mynydd Everest yn gynhesach na’r disgwyl.

Fel rhan o’r ymchwil bydd yr Athro Bryn Hubbard o Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol yn mynd â thîm i’r Cwm Gorllewinol, hanner cilomedr uwch ben gwersyll cyntaf Everest, er mwyn drilio i samplo’r iâ - uchder o dros 6,000 km uwch ben lefel y môr. 

Mae disgwyl i’r academyddion fynd ar eu taith ymchwil gyntaf yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf er mwyn dechrau’r samplo ynghyd â gosod gorsafoedd tywydd newydd yno.

Dywedodd yr Athro Bryn Hubbard o Brifysgol Aberystwyth:

“Gwn i y byddai’n dipyn o syndod i lawer bod eira yn toddi ar Everest, ond dyna sydd angen ymchwilio iddo os ydyn ni’n mynd i ddeall effeithiau newid hinsawdd sydd â chymaint o oblygiadau i gynifer o bobl ledled y byd.

“Mae deall beth yn union sy’n digwydd y tu mewn i’r rhewlifoedd hyn yn hanfodol wrth ddatblygu modelau cyfrifiadurol o’u hymateb i’r newidiadau hinsoddol a ragwelir. Mae hefyd yn bwysig meithrin gwell dealltwriaeth o sut y maent yn llifo fel bod modd i ni ragweld yn well pryd mae’r argaeau sy’n ffurfio ar y rhewlifoedd hyn yn debygol o dorri, gan ryddhau llifeiriant o ddŵr i’r dyffrynnoedd islaw allai beryglu bywydau. Mae hyn yn risg gwirioneddol ym mynyddoedd yr Himalaya, fel y mae mewn ardaloedd eraill megis yr Andes, ac mae ganddo’r potensial i beryglu bywydau miloedd o bobl.”

Anaml y caiff arsylwadau gwyddonol eu gwneud ar uchderau uchel oherwydd yr heriau logistaidd wrth gludo offer.

Mae'r tîm yn cynllunio set drilio ysgafn newydd i oresgyn y rhwystrau hyn. Fodd bynnag, bydd yn dal i wynebu problemau megis cynnal pŵer batri mewn tymheredd rhewllyd a gweithio mewn ardaloedd ag amodau byw llym a lefelau isel o ocsigen.

Eglurodd yr Athro Duncan Quincey:

"Mae ein gwaith blaenorol wedi dibynnu ar hofrenyddion i gludo ein hoffer i'r rhewlif, ond o ystyried pa mor denau yw'r aer yn y Cwm Gorllewinol, ni allwn ni fod yn sicr y bydd yr hofrenyddion yn gallu hedfan y tro hwn. Fyddwn ni ddim yn gwybod chwaith sut y bydd yr offer yn perfformio mewn amodau mor galed, oherwydd ei fod wedi'i gynllunio i weithredu mewn amodau llawer cynhesach - fel y gellid ei ddweud am y corff dynol hefyd! Ond os gallwn ddrilio hyd yn oed un twll turio o fewn y Cwm Gorllewinol yn llwyddiannus yn llwyddiant mawr. Yn bwysicaf oll, bydd yn ein harwain at allu modelu gyda llawer mwy o sicrwydd sut mae cyflenwadau dŵr yn debygol o newid i ran fawr o boblogaeth y byd."

Ychwanegodd yr Athro Hubbard:

“Bydd y gwaith hwn hefyd yn cynnig dealltwriaeth newydd i ni o brosesau a newidiadau sy’n berthnasol i bob rhewlif mewn lleoliadau tebyg ledled y byd. Y gobaith yw y bydd yn cau pen y mwdwl ar ddadleuon sydd heb eu datrys am y posibilrwydd o golled màs net ar uchelderau uchaf y byd ac yn dangos i ba raddau y gall rhewlifoedd eraill yn yr Himalaya hefyd gynnwys rhew annisgwyl o gynnes.

“Dylen ni hefyd allu darparu mewnwelediad i barth cryosfferig nad yw’n cael ei ymchwilio’n aml iawn a all lywio polisi cyhoeddus ar newid  hinsawdd. Fel rhan o hyn bydd yn darparu tystiolaeth bellach ar gyfer asiantaethau cefnogi megis y Cynllun Datblygu’r Cenhedloedd Unedig, a llywodraeth Nepal. Dylai hyn eu helpu i baratoi ar gyfer, a lliniaru, y newid, sydd bellach yn anochel, yn y cyflenwad dŵr tawdd wrth i newidiadau hinsoddol barhau i effeithio ar y rhanbarth hwn.”

Ariennir y prosiect gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol ac yn ffrwyth cydweithio rhwng academyddion o brifysgolion Aberystwyth a Leeds.

Yr Athro Bryn Hubbard

Dyfarnwyd Medal y Pegynau i’r Athro Bryn Hubbard ym mis Ionawr 2016 i gydnabod ei waith fel “ysgolhaig Pegynol mewn rhewlifeg, daeareg rewlifol a strwythur a mudiant masau iâ”.

Astudiaeth Himalaya 2024 fydd ei 25ain flwyddyn olynol i gynnwys cyfnod o waith maes rhewlifegol.

Er 1988 mae’r Athro Hubbard wedi gweithio yn Antarctica ar chwech achlysur, astudio mudiant rhewlifoedd ar uchelderau mawr yn yr Andes ym Mheriw ar dri achlysur, gweithio yn yr Ynys Las ar chwech achlysur ac ar Svalbard wyth o weithiau, yn ogystal ag Arctig Canada a Norwy.

Cyn ymchwilio ar fasau iâ mwy egsotig y byd, cyflawnodd waith maes yn Alpau Ewrop, gan arwain neu gymryd rhan mewn gwersylloedd maes ar tua 20 achlysur.