Gwyddonydd o Aberystwyth yn nodi tranc taith ofod arloesol
Dr Owen Roberts, fu'n gweithio fel cymrawd ymchwil ar Cluster yn ESTEC, Canolfan Ymchwil Gofod a Thechnoleg Ewropeaidd ESA yn yr Iseldiroedd.
06 Medi 2024
Bydd taith ofod sydd wedi cynorthwyo gwyddonwyr ledled y byd i ddeall a rhagweld tywydd y gofod yn well, yn dod i ben ddydd Sul (8 Medi) ar ôl bron i 25 mlynedd.
Bydd Salsa, y gyntaf o loerenau Cluster, taith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, yn dychwelyd i atmosffer y ddaear dros y Môr Tawel.
Nid oes disgwyl i lawer o’r lloeren 550kg oroesi gan y bydd y rhan fwyaf ohoni’n losgi tua 80km uwch law wyneb y Ddaear.
Bydd yn foment chwerw-felys i aelodau Grŵp Ffiseg y Gofod Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi defnyddio data Cluster ar gyfer eu hymchwil i’r gofod ers lansio’r daith yn 2000.
Dim ond dwy flynedd oedd hi i fod i bara’n wreiddiol, ond mae pedair lloeren y daith wedi herio disgwyliadau, a diolch i symudiadau a rheoli pŵer dyfeisgar, wedi llwyddo i anfon data yn ôl i’r Ddaear am 24 mlynedd.
Bu Dr Owen Roberts yn gweithio fel cymrawd ymchwil ar Cluster yn ESTEC, Canolfan Ymchwil Gofod a Thechnoleg Ewropeaidd ESA yn yr Iseldiroedd, wedi iddo gwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dychwelodd i Aberystwyth fel Darlithydd yn yr Adran Ffiseg yn gynnar yn 2024 ac mae’n parhau i ddefnyddio data a gasglwyd gan Cluster ar gyfer ei ymchwil.
Yn ôl Dr Roberts, braenarodd Cluster y tîr ar gyfer teithiau eraill, gan gynnwys taith MMS NASA (Taith Aml-raddfa Magnetosfferig) a lansiwyd yn 2015 gyda phedair llong ofod sydd yr union yr un fath, a thaith HelioSwarm sydd i’w lansio yn 2029 gyda’i 9 lloeren.
“Mae Cluster wedi cael ei ddefnyddio gan wyddonwyr ar draws y byd a hyd yn oed nawr, gyda theithiau mwy soffistigedig, mae rhai o’r offerynnau ar fwrdd Clwstwr wedi profi’n well ar gyfer dadansoddi’r gwynt yr Haul.
“Mae Cluster wedi cyfoethogi ein dealltwriaeth o dywydd y gofod a’i effeithiau ar y Ddaear, ac ar lefel bersonol mae wedi fy ngalluogi i ddeall natur y tonnau magnetig sydd yn y plasma sy’n llifo allan o’r Haul ar ffurf y gwynt yr Haul.
“Bydd gwylio ei dranc yn brofiad chwerw-felys, ond mae’r gwaith gwyddonol yn parhau; a byddwn ni’n parhau i weithio gyda’r data sydd wedi’u casglu gan y daith.”
Mae Dr Roberts yn disgwyl cyhoeddi papur academaidd cyn diwedd y flwyddyn hon a fydd wedi ei seilio ar ddata a ddarparwyd gan y Cluster.