Galw ar i’r Cenhedloedd Unedig ‘newid’ ei hagwedd iechyd - academydd blaenllaw
Yr Athro Darrell Abernethy, Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth
13 Medi 2024
Bydd prif academydd milfeddygol Cymru yn galw am ‘newid sylweddol’ yn wyneb y bygythiadau byd-eang i iechyd pobl ac anifeiliaid mewn anerchiad i’r Cenhedloedd Unedig heddiw.
Wrth annerch uwchgynhadledd wyddonol Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, bydd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn dweud bod angen i lawer iawn mwy gael ei wneud er mwyn sicrhau bod y meddylfryd ‘Iechyd Cyfunol’ yn gwreiddio.
Nod ‘Iechyd Cyfunol’ yw sicrhau’r iechyd gorau i bobl, anifeiliaid a’r amgylchedd drwy gydnabod eu cyd-ddibyniaeth a’r angen am ddull integredig wrth ateb y materion o bwys hyn.
O ystyried heriau, megis lledaeniad posibl COVID-19 neu ffliw adar rhwng anifeiliaid a phobl, nod ‘Iechyd Cyfunol’ yw dod â disgyblaethau gwahanol ynghyd er mwyn meithrin lles a mynd i’r afael â bygythiadau.
Yn 2022, cyhoeddwyd ‘Cynllun Gweithredu ar y Cyd Un Iechyd’ gan Sefydliad Iechyd y Byd, Sefydliad y Byd ar gyfer Iechyd Anifeiliaid, Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, a Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig. Mae’r cynllun uchelgeisiol hwnnw yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau drwy ddull hollgynhwysol, integredig, ond mae’r Athro Abernethy yn credu bod strwythurau presennol yn gweithio yn erbyn nodau clodwiw.
Bydd yn annerch yr Uwchgynhadledd Wyddoniaeth am yr Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, digwyddiad mawreddog sy’n dod â gwyddonwyr blaenllaw, llunwyr polisi, arweinwyr diwydiant, ac arloeswyr o bob rhan o’r byd ynghyd i drafod a mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd gwyddonol byd-eang.
Yn ei araith, bydd yr arbenigwr milfeddygol o Aberystwyth yn trin a thrafod rhwystrau rhag symud yr agenda Iechyd Cyfunol yn ei flaen oddi fewn i addysg filfeddygol a meddygol ynghyd â’r meysydd polisi cyhoeddus ac ymchwil.
Dywedodd yr Athro Abernethy o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae angen i Iechyd Cyfunol ddod yn norm newydd ac mae angen newid ein ffyrdd o weithio i gyflawni hynny. Er enghraifft, yn ystod pandemig COVID-19, roedd gan y sector filfeddygol lawer i’w gynnig ond cafodd ei hanwybyddu’n bennaf er gwaethaf profiad helaeth brechu torfol, diagnosis clefydau neu meddygaeth lefel boblogaeth. Yn yr un modd, mae gwarchod rhywogaethau dan fygythiad yn cael ei weld yn aml fel maes i ecolegwyr a sŵolegwyr yn unig, ond mae wedi dod yn gynyddol amlwg bod addysgwyr, gwyddonwyr ymddygiad a economegwyr yr un mor hanfodol. Mae mynd i’r afael â heriau enbyd ein planed yn gofyn am dorri i lawr ar ddull traddodiadol adrannau’r llywodraeth ac addysgwyr, sy’n atgyfnerthu, yn ddiarwybod, seilos ‘gweithio ar ein pennau ein hunain’, ac ymrwymiad penodol i weithio amlddisgyblaethol, cydweithredol.
“Mae’n anrhydedd cael annerch yr uwchgynhadledd hon lle mae rôl a chyfraniad gwyddoniaeth i gyrraedd Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn thema ganolog. Cydweithrediad ac ymgysylltiad gwyddonol rhyngwladol fel hyn sydd ei angen os ydyn ni am fynd i’r afael â’r problemau o bwys sy’n wynebu ein planed.”