Aberystwyth yn cynnal cynhadledd flynyddol i ddatblygwyr Apple yn y DG
02 Medi 2024
Mae arbenigwyr meddalwedd o bob rhan o'r byd yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon (2-5 Medi) i glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes datblygu iOS.
Bellach yn ei 13eg flwyddyn, mae cynhadledd flynyddol tri diwrnod iOSDEV yn cynnwys mwy na 30 o siaradwyr o ystod o gwmnïau gan gynnwys Apple, Audible, Dyson, Spotify ac eraill.
Yr Athro Chris Price o Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol fu’n helpu i lansio’r digwyddiad yn ôl yn 2010.
“Roeddem yn meddwl yn gyntaf am iOSDEV fel rhywbeth i ddatblygwyr meddalwedd o’r DG, ond mae siaradwyr a mynychwyr o bob rhan o’r byd yn dod yma,” meddai’r Athro Price.
“Un o’n blaenoriaethau yn y gynhadledd yw canolbwyntio ar y pethau sydd wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf o ran datblygiad Apple. Mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, Vision Pro - penset newydd Apple sy'n eich galluogi i weld rhith-realiti o'ch cwmpas. Bydd sylw hefyd i ddatblygiadau diweddaraf mewn dysgu peirianyddol.
“Felly mae datblygwyr meddalwedd yn dod i Aberystwyth er mwyn dysgu yn ogystal â rhannu gwybodaeth a syniadau. Mae’n gynhadledd wych i ni hefyd fel Adran Gyfrifiadureg oherwydd mae’n caniatáu i ni gadw mewn cysylltiad â datblygwyr yn y byd go iawn, i weld beth maen nhw’n ei wneud a gwneud cysylltiadau newydd.”