Gwobr addysgu sy’n mynd tu hwnt i’r penawdau

01 Gorffennaf 2019

Mae'r defnydd arloesol o straeon newyddion cyfoes i addysgu gwleidyddiaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i gydnabod gan Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain.

Sherpas y Gwynt Solar yn paratoi i gofnodi clip yr Haul

02 Gorffennaf 2019

Mae Sherpas y Gwynt Solar Prifysgol Aberystwyth ym mynyddoedd yr Andes yn yr Ariannin ar hyn o bryd, yn paratoi i gofnodi clip llawn diweddaraf yr Haul.

Clip yr haul yn datgelu ochr dywyll a stormus o’r haul na welwn ni fyth

02 Gorffennaf 2019

Cyhoeddwyr yr erthygl hon gan Dr Huw Morgan o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation

Aber ar y brig am fodlonrwydd myfyrwyr

03 Gorffennaf 2019

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymhlith y rhai mwyaf bodlon eu byd yn y Deyrnas Unedig.

Ymyriadau cynnar yn arwain at lai o droseddu ymysg pobl ifanc

04 Gorffennaf 2019

Mae ymchwil newydd yn dangos bod darparu cefnogaeth gynnar i bobl ifanc, ysgolion a rhieni yn arwain at ostyngiad mewn cyfraddau troseddu. 

Mae theatrau’n esblygu er mwyn ein hailgysylltu â’n gilydd a’r amgylchedd

05 Gorffennaf 2019

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Dr Andrew Filmer o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu y Brifysgol yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation. 

Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol

09 Gorffennaf 2019

Mae cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol Prifysgol Aberystwyth yn agor heddiw, dydd Llun 8 Gorffennaf 2019, gan gynnig rhaglen lawn o siaradwyr a chyfleoedd i edrych ar rai o ddatblygiadau diweddaraf ac arferion da mewn dysgu ac addysgu.

TB Gwartheg – trafodaeth traws-ddiwydiannol i drafod y camau nesaf yn y frwydr

12 Gorffennaf 2019

Fe ddaw ffermwyr, milfeddygon ac ymchwilwyr gwyddonol at ei gilydd yn y Sioe Frenhinol i osod yr agenda ar gyfer y frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg.  Bydd panel sy’n cynnwys rhai o’r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn y maes yn ystyried rôl gwyddoniaeth ynghyd â mewnbwn milfeddygon ac amaethwyr.

Sut yr ysbrydolodd marchog carreg ddwy weledigaeth wahanol iawn o gariad gan John Keats a Philip Larkin

16 Gorffennaf 2019

Yn 'The Conversation', mae Richard Marggraf-Turley, Athro Llenyddiaeth Saesneg, yn awgrymu bod coffddelw gothig, yn dangos pâr priod yn dal dwylo yn Eglwys Gadeiriol Chichester, a wnaed yn enwog gan gerdd Philip Larkin 'An Arundel Tomb', hefyd wedi ysbrydoli John Keats i ysgrifennu ei fyfyrdod ar serch sydd wedi'i dynghedu i fethu, `La Belle Dame Sans Merci', ddwy ganrif yn ôl.

Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i athro cerdd peripatetig o Geredigion

16 Gorffennaf 2019

Mae Alan Phillips, athro cerdd peripatetig sydd wedi gweithio i Wasanaeth Cerdd Ceredigion am 35 mlynedd, wedi ei gyflwyno’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Anrhydeddu Pennaeth Sefydlol Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru

16 Gorffennaf 2019

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth i’r Athro Frank N. Hogg OBE, Pennaeth Sefydlol Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru.

Cymraes sy’n fardd a hanesydd lleol yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

17 Gorffennaf 2019

Mae’r Gymraes, Ruth Bidgood, sy’n fardd a hanesydd lleol, wedi cael ei hanrhydeddu â Chymrodoriaeth.

Anrhydeddu cyfarwyddwr sefydliad ymchwil orthopaedeg blaenllaw

17 Gorffennaf 2019

Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth i Gyfarwyddwr sefydliad ymchwil orthopaedeg blaenllaw.

Gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan mewn cam posib ymlaen yn erbyn TB gwartheg

17 Gorffennaf 2019

Mae ymchwil gan ddau wyddonydd o Aberystwyth wedi paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiad allweddol posib yn y frwydr fyd-eang yn erbyn TB mewn gwartheg.

Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Brif Weithredwr cyntaf Cyngor Celfyddydau Cymru

18 Gorffennaf 2019

Mae Prif Weithredwr cyntaf Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i’r celfyddydau yng Nghymru, wedi cael ei anrhydeddu â Chymrodoriaeth o Brifysgol Aberystwyth.

Cynrychiolydd Arbennig y Cenhedloedd Unedig dros Blant a Gwrthdaro Arfog yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

19 Gorffennaf 2019

Mae'r Athro Virginia Gamba, cynfyfyrwraig Gwleidyddiaeth Ryngwladol sydd â thros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad fel arbenigwraig ar faterion strategol ym maes heddwch a diogelwch, diogelwch pobl a diarfogi, wedi cael ei hanrhydeddu â Chymrodoriaeth o Brifysgol Aberystwyth.

Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gyn-gynrychiolydd UNICEF

19 Gorffennaf 2019

Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth i gynfyfyriwr o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a chyn-gynrychiolydd UNICEF yn Senegal.

Cyn-Brif Weinidog Cymru yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

19 Gorffennaf 2019

Mae’r Gwir Anrh Carwyn Jones AC, cyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru rhwng 2009 a 2018 wedi cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth.

Anrhydeddu arweinydd blaenllaw yn yr ymgyrch i ddileu polio

Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth i arweinydd blaenllaw yn yr ymgyrch i ddileu polio yn rhan o’i dathliadau graddio.

Cyhoeddi cynhadledd flynyddol gyntaf Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg

22 Gorffennaf 2019

Mae Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi manylion ei chynhadledd flynyddol gyntaf sydd i'w chynnal yn ddiweddarach eleni.

Prifysgol Aberystwyth yn lansio arolwg newydd o droseddau mewn ardaloedd gwledig

22 Gorffennaf 2019

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gofyn i ffermwyr am eu barn ar sut mae Heddlu Dyfed-Powys yn mynd i’r afael â throseddu gwledig.

Cefnogaeth Sefydliad Wolfson i'r Hen Goleg

24 Gorffennaf 2019

Mae’r sefydliad uchel ei fri, Sefydliad Wolfson wedi rhoi ei gefnogaeth i gynlluniau Prifysgol i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan newydd ar gyfer diwylliant, dysgu a menter erbyn 2022-23.

Y Brifysgol i godi arian er cof am Paul James

25 Gorffennaf 2019

Mae myfyrwyr a staff Prifysgol wedi pleidleisio i godi arian er cof am eu cyd-weithiwr Paul James wrth ddewis Elusen y Flwyddyn y Brifysgol ar gyfer 2019-20.