Cyn-Brif Weinidog Cymru yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC, cyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC, cyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

19 Gorffennaf 2019

Mae’r Gwir Anrh Carwyn Jones AC, cyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru rhwng 2009 a 2018 wedi cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth.

Yn fab i Gymry Cymraeg oedd ill dau’n athrawon, cafodd y Gwir Anrh Carwyn Jones AC ei eni yn Abertawe a’i fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Graddiodd yn y gyfraith o Aberystwyth yn 1988.

Wedi iddo hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain, bu’n gweithio yn Abertawe am ddeng mlynedd cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru ym mis Mai 1999.

Yn ystod y ddau ddegawd wedi hynny bu ganddo sawl swydd yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (2000-02) a Gweinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (2003-07).

Wedi cyfnod byr fel Gweinidog Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, daeth yn Gwnsler Cyffredinol Cymru yn 2007, ac yna’n Brif Weinidog Cymru ac Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru o 2009 hyd 2018.

Cyflwynwyd y Gwir Anrh Carwyn Jones AC gan yr Athro John Williams, Athro Emeritws yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth, ddydd Gwener 19 Gorffennaf 2019.

Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno’r Gwir Anrh Carwyn Jones AC gan yr Athro John Williams:

Ganghellor, Is-Ganghellor, graddedigion a chyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Carwyn Jones yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Vice-Chancellor, graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Carwyn Jones as a Fellow of Aberystwyth University.

Carwyn Jones graduated with an LL.B in 1988 from what was then the University College of Wales, Aberystwyth. He came to Aberystwyth from Brynteg Comprehensive School, Bridgend. Carwyn was born in Swansea but brought up in Bridgend.  He is proud of the fact that since 1999 he has represented Bridgend as the Assembly Member.

As a student, Carwyn was a keen rugby player.  He also developed his passion for politics and joined the Labour Party during the 1984-5 Miners’ Strike.  He enjoyed university life and, as is the nature of Aberystwyth, met many people who have remained lifelong friends. His approach to university life was to achieve a good balance between his academic studies and the many other opportunities that present themselves.

After graduating, Carwyn qualified as a barrister.  He joined Gray’s Inn originally as a student member. In recognition of his achievements, in 2016 he was elected as a Master of the Bench of Gray’s Inn.  Following a career at the Bar in Swansea, and as a tutor on Cardiff University’s Bar Vocational Course, Carwyn stood as a Labour Party candidate in the first elections to the newly created National Assembly for Wales.  He had already established himself as a well-known political figure in Bridgend after serving as a Labour Councillor for five years.

As an Assembly Member, he has held many ministerial appointments.  These include the minister for Agriculture and Rural Development, and for Education, Culture and the Welsh Language. In 2007, he was appointed Counsel General for Wales.  His interest in law increasingly focussed on constitutional law and the devolution settlement for Wales.

Following the resignation of First Minister Rhodri Morgan in 2009, Carwyn won the election to succeed him as Welsh Labour Leader and as the First Minister.  Appointment to the Privy Council followed in 2010.

As First Minister, he presided over one of the most significant events in the recent history of Welsh devolution.  This was the referendum on whether the Assembly should have primary law making powers. The outcome of the referendum was 63.49% in favour of such powers.  Upon receiving the result on the 4th March 2011 the First Minister said ‘Today an old nation came of age’.

The acquisition of primary law-making powers opened up opportunities for Wales enabling the Welsh Government and the Assembly to address the complex issues facing the nation.  During his time as First Minister his Government introduced a radical programme of reform, including the Human Transplantation (Wales) Act 2013, the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014, the Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015 and the Well-being and Future Generations (Wales) Act 2015. These were innovative and showed that Wales is a lively and forward thinking nation.

Life as the First Minister of Wales is exhausting. The demands are relentless.  Sometimes achievements are hard to see amongst the day-to-day life of government.  However, Carwyn at all times was devoted to the role and enthusiastically promoted Wales’ in the United Kingdom and beyond. 

Throughout his professional life, Carwyn has enjoyed the support of his family and in particular his wife Lisa, also a graduate of the Law Department.  His achievements are immense and it entirely appropriate that Aberystwyth is recognising this distinguished former student.

Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Carwyn Jones i chi yn Gymrawd. 

Chancellor, it is my absolute pleasure to present Carwyn Jones to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2019

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu naw o bobl yn ystod seremonïau graddio 2019, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 16 Gorffennaf a dydd Gwener 19 Gorffennaf.

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis faes.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth 2019 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Alan Phillips, athro cerdd peripatetig wedi ymddeol a fu’n gweithio i Wasanaeth Cerdd Ceredigion am 35 mlynedd
  • Yr Athro Frank N. Hogg OBE, Pennaeth sefydlol Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru
  • Ruth Bidgood, bardd a hanesydd lleol
  • Yr Athro R Geoff Richards, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil AO Davos (y Swisdir) – un o’r sefydliadau ymchwil sy’n arwain y byd ym maes orthopaedeg
  • Emyr Jenkins, Cyfarwyddwr cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol a Phrif Weithredwr (wedi ymddeol) Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Yr Athro Virginia Gamba, arbenigwraig ym maes diarfogi a llunio polisi
  • Ian Hopwood, a fu’n gweithio ym maes datblygu ers dros 40 mlynedd ym Mhencadlys UNICEF ac mewn aseiniadau maes yn Affrica, Asia, a Thaleithiau’r Gwlff Arabaidd
  • Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC, cyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru 2009-18
  • Judith Diment, sy’n amlwg yn fyd-eang yn yr ymgyrch i gael gwared ar bolio