Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Brif Weithredwr cyntaf Cyngor Celfyddydau Cymru

Diprwy Ganghellor, Gwerfyl Pierce Jones, gyda Emyr Jenkins, Prif Weithredwr cyntaf Cyngor Celfyddydau datganoledig Cymru a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth

Diprwy Ganghellor, Gwerfyl Pierce Jones, gyda Emyr Jenkins, Prif Weithredwr cyntaf Cyngor Celfyddydau datganoledig Cymru a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth

18 Gorffennaf 2019

Mae Prif Weithredwr cyntaf Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i’r celfyddydau yng Nghymru, wedi cael ei anrhydeddu â Chymrodoriaeth o Brifysgol Aberystwyth.

Cafodd Emyr Jenkins ei eni ym Machynlleth, gan dderbyn ei addysg yno cyn graddiodd mewn Ffiseg o Aberystwyth yn 1961.

Aeth ymlaen i weithio i’r BBC yng Nghaerdydd lle bu’n cyflwyno bwletinau newyddion yn Gymraeg a Saesneg ar y radio a’r teledu, yn sylwebu ar ddigwyddiadau ac, o 1971-78, yn gweithio fel trefnydd rhaglenni i Gymru.

Fel Cadeirydd cyntaf y Mudiad Ysgolion Meithrin yn nechrau’r 1970au, chwaraeodd ran allweddol yn yr ymgyrch dros addysg Gymraeg.

Yn 1978 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu yn y swydd honno am bymtheg mlynedd.

Yna, yn 1993 daeth yn Gyfarwyddwr Cyngor y Celfyddydau yng Nghymru a’r flwyddyn ganlynol fe’i gwnaed yn Brif Weithredwr cyntaf Cyngor Celfyddydau datganoledig Cymru, swydd y bu ynddi hyd iddo ymddeol yn 1998.

Cyflwynwyd Emyr Jenkins gan Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mewn seremoni raddio ar ddydd Iau 18 Gorffennaf 2019.

Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno’r Athro Emyr Jenkins gan Dr Anwen Jones:

Ddirprwy Ganghellor, Dirprwy Is-Ganghellor, graddedigion a  chyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Emyr Jenkins yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Pro Chancellor, Pro Vice-Chancellor, graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Emyr Jenkins as a Fellow of Aberystwyth University.

Mae cyfraniad Emyr i’w gymdeithas ac i’w genedl wedi bod yn un sylweddol ac nodweddwyd ei waith a’i yrfa gan dri pheth; sgiliau trosglwyddadwy, ymroddiad cyson a chlir i ddatblygiad y celfyddydau a’r cyfryngau creadigol yng Nghymru a’r parodrwydd i rhoi ei sgiliau yn hael at wasanaeth ei genedl a’i gyd-Gymry.

Emyr was born and educated in Machynlleth before coming a little further south to Aberystwyth to study Physics and gain a BA Honours undergraduate degree in 1961.  An outstanding example of the veracity of employability statistics for bilingual graduands, Emyr immediately took up an exciting role as Director of a BBC Sound Studio in London where he spent some time in the Radio Drama department. In 1962, he returned home to Cardiff and to Wales and became a familiar voice reading radio and television news bulletins in both Welsh and English and commentating on important events in Wales’s cultural calendar, such as the Eisteddfod Genedlaethol and the Wales BBC Orchestra concerts on the network channels.

Ym 1968 symudodd i gadair y rhaglen gylchgrawn deledu nosweithiol 'Heddiw' a hynny mewn cyfnod gwleidyddol ddiddorol a dadleuol iawn yn arwain at yr Arwisgiad ym 1969. Ond ym 1978, fe’i penodwyd i swydd arloesol, newydd sef Cyfarwyddwr cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol. Un o uchafbwyntiau’r cyfnod hwn oedd gweithredu fel ysgrifennydd i'r ddirprwyaeth a aeth i weld William Whitelaw yn y Swyddfa Gartref i ddadlau dros sefydlu sianel deledu iaith Gymraeg. Yn union fel y bu ei benodiad yn Gyfarwyddwr yr Eisteddfod yn garreg filltir bwysig yn hanes diwylliannol Cymru, bu hefyd yn ddylanwadol wrth osod marc tyngedfennol arall ar fap Cymru am i’r cyfarfod hwnnw gyda Whitelaw arwain at sefydlu S4C – rhodd amheuthun i Gymru.

Emyr’s commitment to the Arts in Wales continued and in 1993 he was appointed Director of the Welsh Arts Council and, then, a year later, became the first Executive Director of a devolved Arts Council. In 1998, Emyr retired but he was active at a voluntary level both before and after retirement and held many key public roles such as first Chair of the Mudiad Meithrin, member of the University of Wales Press board and first Chair of the Sherman Theatre.

Bu Emyr yn ddylanwad arloesol ar ddiwylliant Cymraeg a Chymreig ar hyd ei yrfa ac mae amlygrwydd y gair ‘cyntaf’ yn ei rhestr cyrhaeddiadau yn tystio i’r modd y bu iddo arwain yn ei ddewis feysydd ac ymroi i dorri cwys newydd i Gymru, mor effeithiol ac mor gyson.  Heddiw braint yw cael datgan bod Emyr yn gyntaf ac yn flaenaf gyda ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ddirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Emyr Jenkins i chi yn Gymrawd. 

Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Emyr Jenkins to you as a Fellow of Aberystwyth University.

 

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2019

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu naw o bobl yn ystod seremonïau graddio 2019, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 16 Gorffennaf a dydd Gwener 19 Gorffennaf.

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis faes.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth 2019 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Alan Phillips, athro cerdd peripatetig wedi ymddeol a fu’n gweithio i Wasanaeth Cerdd Ceredigion am 35 mlynedd
  • Yr Athro Frank N. Hogg OBE, Pennaeth sefydlol Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru
  • Ruth Bidgood, bardd a hanesydd lleol
  • Yr Athro R Geoff Richards, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil AO Davos (y Swisdir) – un o’r sefydliadau ymchwil sy’n arwain y byd ym maes orthopaedeg
  • Emyr Jenkins, Cyfarwyddwr cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol a Phrif Weithredwr (wedi ymddeol) Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Yr Athro Virginia Gamba, arbenigwraig ym maes diarfogi a llunio polisi
  • Ian Hopwood, a fu’n gweithio ym maes datblygu ers dros 40 mlynedd ym Mhencadlys UNICEF ac mewn aseiniadau maes yn Affrica, Asia, a Thaleithiau’r Gwlff Arabaidd
  • Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC, cyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru 2009-18
  • Judith Diment, sy’n amlwg yn fyd-eang yn yr ymgyrch i gael gwared ar bolio