Gwobr addysgu sy’n mynd tu hwnt i’r penawdau

Dr Jenny Mathers (Chwith) a Dr Alexandros Koutsoukis o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ennillwyr Gwobr Rhagoriaeth mewn Addysgu Astudiaethau Rhyngwladol Cymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain am 2019.

Dr Jenny Mathers (Chwith) a Dr Alexandros Koutsoukis o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ennillwyr Gwobr Rhagoriaeth mewn Addysgu Astudiaethau Rhyngwladol Cymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain am 2019.

01 Gorffennaf 2019

Mae'r defnydd arloesol o straeon newyddion cyfoes i addysgu gwleidyddiaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i gydnabod gan Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain.

Enillodd “Behind the Headlines”, modiwl addysgu a ddatblygwyd gan Dr Alexandros Koutsoukis a Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Wobr Rhagoriaeth mewn Addysgu Astudiaethau Rhyngwladol y Gymdeithas ar gyfer 2019.

Crëwyd y modiwl i annog chwilfrydedd myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran, ac mae wedi cynnwys cyfraniadau gan siaradwyr gwadd megis Golygydd Dwyrain Canol y BBC Jeremy Bowen a Phennaeth Cyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru Non Gwilym.

Mae hefyd yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol ar ddatblygu strategaeth materion cyhoeddus ac efelychu argyfwng, a thrafodaethau a dadleuon dan arweiniad myfyrwyr.

Mae’r modiwl hefyd wedi ennill Gwobr Cwrs Enghreifftiol Prifysgol Aberystwyth yn 2019.

Dywedodd yr Athro Richard Beardsworth, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth; “Mae hwn yn newyddion gwych a llongyfarchiadau cynhesaf i  Alexandros a Jenny ar eu llwyddiant. Fel yr Adran gyntaf yn y Byd ym maes cysylltiadau rhyngwladol, rydym yn ymfalchïo yn rhagoriaeth yr addysgu yma, ac mae'n gwbl addas bod eu gwaith caled a'u defnydd arloesol o'r agenda newyddion cyfredol i gyfoethogi profiad dysgu ein myfyrwyr wedi cael eu cydnabod gan Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain, ac yn enwedig wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant.”

Cwblhaodd Dr Alexandros Koutsoukis ei ddoethuriaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 2017. Bu’n dysgu yn yr Adran ers 2012, ac mae ei waith wedi cael ei gydnabod gan wobrau dan arweiniad myfyrwyr Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn yn 2017 ac Adborth Eithriadol yn 2018. Ar hyn o bryd mae'n ymchwilydd ôl-ddoethurol Ymddiriedolaeth Leverhulme i'r Athro Andrew Linklater ac yn gweithio ar rôl symbolau yng ngwleidyddiaeth y byd.

Mae Dr Jenny Mathers yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol â chanddi dros 25 mlynedd o brofiad addysgu yn y byd addysg uwch. Mae’n arloeswr yn y Brifysgol ar y defnydd o Twitter mewn addysgu ac yn trefnu paneli ar ddysgu ac addysgu yn rheolaidd mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol i ysgolheigion ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol.

Ymysg enillwyr blaenorol y wobr sydd â chysylltiad gyda’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol mae Elena Korosteleva-Polglase (2009) ac Ayla Gol (2011), y ddwy yn aelod staff ar y pryd, a’r cyn-fyfyrwyr doethuriaeth Adam Morton (2012) ac Erzsebet Strausz (2017), a’r cyn gymrawd ôl-ddoethurol Naomi Head (2018).