Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gyn-gynrychiolydd UNICEF
Ian Hopwood, cyn-gynrychiolydd UNICEF a Chymrawd Anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth
19 Gorffennaf 2019
Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth i gynfyfyriwr o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a chyn-gynrychiolydd UNICEF yn Senegal.
Mae Ian Hopwood wedi gweithio ym maes datblygu ers dros 40 mlynedd, yn Affrica ac Asia yn bennaf.
Fel Cynrychiolydd UNICEF yn Guinea, Zambia a Senegal, bu’n ymwneud ag eiriolaeth ym maes hawliau plant, effeithiolrwydd cymorth a diwygio’r Cenhedloedd Unedig, strategaethau lleihau tlodi, a chynlluniau gweithredu Amcanion Datblygu’r Mileniwm.
Bu’n ceisio’n barhaus i wella ansawdd gwerthuso a dysgu sefydliadol, ac i gryfhau’r cysylltiadau rhwng ymchwil, llunio polisïau, arferion rhaglennu a gwerthuso, a bu’n Bennaeth Gwerthuso UNICEF o 1996-2000.
Ers ymddeol o UNICEF, bu’n arwain Cymdeithas Werthuso Senegal, y mae’n Llywydd Anrhydeddus arni, ac yn darlithio ar fonitro a gwerthuso a hawliau plant yn Sciences Po ym Mharis a Phrifysgol Cheikh Anta Diop, Dakar.
Cyflwynwyd Ian Hopwood yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth gan yr Athro Milja Kurki o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar ddydd Iau 18 Gorffennaf 2019.
Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.
Cyflwyno Ian Hopwood gan yr Athro Milja Kurki:
Ganghellor, Dirprwy Is-Ganghellor, graddedigion a chyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Ian Hopwood yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Chancellor, Pro Vice-Chancellor, graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Ian Hopwood as a Fellow of Aberystwyth University.
Ian Hopwood has made invaluable contributions to development policy and practice in Africa and in Asia and has helped shape the development aid agenda of UNICEF at crucial moments in the organization’s history. His contributions have focused on improving the lives of children and youth, in particular the attainment of their rights to health and education.
Ian started his career in development work as a UK United Nations Association International Service volunteer with UNICEF in Cameroun in 1972. He has been an active if discrete participant in situations of historical significance. As a UNICEF Project Officer in 1975-77 he was part of the first UN presence based in post-war Hanoi. In 1979-80 he was a key member of the Joint UN-ICRC Mission in Phnom Penh bringing relief to a devastated “post Pol Pot” Cambodia.
Subsequently he was UNICEF Representative successively in Guinea, Zambia and Senegal, where he has provided policy advice on a wide range of child rights issues and has been actively engaged in innovative work to improve development effectiveness and UN coherence, with a focus on sector reforms and the Millennium Development Goals.
Between 1996 and 2000 he served as Evaluation Chief in UNICEF HQ in New York. In this role he helped shape and implement UNICEF’s policy agendas, in particular their evaluation policy, incorporating field practice and organizational learning.
Since retiring from UNICEF, he has continued to be active in both practice and scholarship on development operating from his base in Dakar, Senegal. He has guided the Senegalese Evaluation organization, taught at Sciences Po, in Paris, and Cheikh Anta Diop University, in Dakar, and has undertaken consultancies for Save the Children, OECD-DAC EvalNet, the CLEAR Initiative, the African Child Policy Forum and UN agencies. He has also authored/co-authored a number of major reports, such as the African Report on Child Wellbeing in 2016. He is especially motivated by his work to coach and mentor creative and talented young African professionals who will carry the continent forward.
He is originally from Caergwrle (Flintshire), and is not ashamed to admit that he has been a lifelong supporter of Wrexham Football Club. His interest in Africa and in development work for social justice was shaped in crucial ways during his time in Aber. It is in Aber that Ian Hopwood discovered:
- Africa: through the overland 1969 UCW Cameroun Expedition,
- the UN: through
- the teaching of Ieuan John,
- his leadership of the UN Students Association, and
3) social justice and development concepts through
- the Third World First initiative
- his editorship of Interstate journal in the department of IP and
- the mentoring of Mike MccGwire, an important past member of staff who we still honour in the department today in the form of the MccGwire Prize
Ian Hopwood is an exceptional contributor to the global development community and at the same time an exceptional exemplar of, and a role model for, the globally committed Aber community.
Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Ian Hopwood i chi yn Gymrawd.
Chancellor, it is my absolute pleasure to present Ian Hopwood to you as a Fellow of Aberystwyth University.
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2019
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu naw o bobl yn ystod seremonïau graddio 2019, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 16 Gorffennaf a dydd Gwener 19 Gorffennaf.
Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis faes.
Dyma Gymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth 2019 (yn y drefn y’u cyflwynir):
- Alan Phillips, athro cerdd peripatetig wedi ymddeol a fu’n gweithio i Wasanaeth Cerdd Ceredigion am 35 mlynedd
- Yr Athro Frank N. Hogg OBE, Pennaeth sefydlol Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru
- Ruth Bidgood, bardd a hanesydd lleol
- Yr Athro R Geoff Richards, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil AO Davos (y Swisdir) – un o’r sefydliadau ymchwil sy’n arwain y byd ym maes orthopaedeg
- Emyr Jenkins, Cyfarwyddwr cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol a Phrif Weithredwr (wedi ymddeol) Cyngor Celfyddydau Cymru
- Yr Athro Virginia Gamba, arbenigwraig ym maes diarfogi a llunio polisi
- Ian Hopwood, a fu’n gweithio ym maes datblygu ers dros 40 mlynedd ym Mhencadlys UNICEF ac mewn aseiniadau maes yn Affrica, Asia, a Thaleithiau’r Gwlff Arabaidd
- Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC, cyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru 2009-18
- Judith Diment, sy’n amlwg yn fyd-eang yn yr ymgyrch i gael gwared ar bolio