Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol
09 Gorffennaf 2019
Mae cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol Prifysgol Aberystwyth yn agor heddiw, dydd Llun 8 Gorffennaf 2019, gan gynnig rhaglen lawn o siaradwyr a chyfleoedd i edrych ar rai o ddatblygiadau diweddaraf ac arferion da mewn dysgu ac addysgu.
Bellach yn ei seithfed flwyddyn, thema’r gynhadledd eleni yw ‘Dysgu o Ragoriaeth: Arloesi, Cydweithio, Cymryd Rhan!’
Trefnir y digwyddiad gan Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (UDDA) o ddydd Llun 8 Gorffennaf i ddydd Mercher 10 Gorffennaf 2019.
Nodwyd lansiad swyddogol yr UDDA, ynghyd â Strategaeth newydd Dysgu ac Addysgu y Brifysgol yn y gynhadledd hefyd.
Bwriad yr UDDA yw gwella ansawdd dysgu, addysgu ac asesu sefydliadol.
Yn ogystal â darparu datblygiad broffesiynol barhaus i’r staff yn eu gyrfaoedd, fydd yr Uned yn hyrwyddo cydnabyddiaeth academaidd ac yn gwobrwyo, datblygu’r defnydd o ddysgu gyda thechnoleg, a rhannu arbenigedd ac arfer da drwy gofodau, rhwydweithiau a digwyddiadau.
Bwriad y gynhadledd yw adlewyrchu ymroddiad staff Prifysgol Aberystwyth i ehangu profiad dysgu’r Myfyrwyr gyda ffocws ar bedwair agwedd: Sut mae myfyrwyr yn dysgu; cynllunio dysgu effeithiol ac arloesol; addysgu drwy ymchwil i ehangu dysgu; a profiadau dysgu cydweithredol a chyfranogol.
Gan nodi yn rhaglen y gynhadledd, dywedodd yr Athro Time Woods: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn cystadlu â'r goreuon ym maes Dysgu ac Addysgu. Gyda'r canmoliaethau a'r gwobrau sydd gennym am brofiad y myfyrwyr, yr adnoddau dysgu, a rhagoriaeth yr addysgu, gallwn ymfalchïo yn arferion, dyfeisgarwch a thrylwyredd ein staff. Ond, er mwyn cadw ar y blaen, rhaid i Brifysgol Aberystwyth gadw i ddysgu'n barhaus am y datblygiadau blaengar yn y sector, er mwyn addasu'n dulliau i gwrdd â heriau cyfnewidiol y carfanau myfyrwyr, ac i ennyn diddordeb ein myfyrwyr fel partneriaid gweithredol yn eu dysgu. Hyn yn rhannol yw swyddogaeth y gynhadledd - lle i annog ac ysgogi trafodaethau am y gweithgaredd hwnnw sy'n rhan mor fawr o ddiben Prifysgol.”
Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac mae’n agored i bob aelod o staff Prifysgol Aberystwyth sy’n cyfrannu at y dysgu a’r addysgu.
Mae croeso i staff nad ydynt wedi cofrestru ymlaen llaw i fynychu’r gynhadledd. Gofynnir iddynt gofrestru yn swyddfa’r gynhadledd (Y Felin Drafod, Adeilad Llandinam) ar y diwrnod.
Manylion llawn y gynhadledd ar gael ar-lein.
Dyfarnwyd Aur i Brifysgol Aberystwyth yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) ym mis Mehefin 2018, ac fe’i henwyd yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu gan The Times / Sunday Times Good University Guide am yr ail flwyddyn yn olynol ym mis Medi 2019.
Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddaraf a gyhoeddwyd ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2019, fe ddaeth Aberystwyth ar y brig o blith prifysgolion Cymru a Lloegr ac yn ail yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr.