TB Gwartheg – trafodaeth traws-ddiwydiannol i drafod y camau nesaf yn y frwydr
12 Gorffennaf 2019
Fe ddaw ffermwyr, milfeddygon ac ymchwilwyr gwyddonol at ei gilydd yn y Sioe Frenhinol i osod yr agenda ar gyfer y frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg. Bydd panel sy’n cynnwys rhai o’r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn y maes yn ystyried rôl gwyddoniaeth ynghyd â mewnbwn milfeddygon ac amaethwyr.
Bydd digwyddiad ‘TB ‘ta beidio?” sydd wedi’i drefnu gan Brifysgol Aberystwyth yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth sydd ger adeilad S4C wrth ochr y prif gylch, am 15:00 Ddydd Llun 22 Gorffennaf 2019.
Talwyd cyfanswm o tua £14.5m mewn iawndal gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i ddifa da byw oherwydd TB gwartheg yn 2018/19, gyda thros 11,000 o wartheg yn cael eu lladd yn 2018.
Mae’r clefyd wedi’i ddisgrifio fel y broblem fwyaf sydd gennym yng Nghymru ym maes iechyd anifeiliaid heddiw.
Mae’r digwyddiad wedi’i gydlynu gan Yr Athro Glyn Hewinson, sydd yn arwain ar ddatblygiad Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ymhlith y cyfranwyr eraill mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Yr Athro Christianne Glossop, a ffermwr llaeth o Forgannwg, Abi Reader. Mi fydd y sesiwn yn agored i unrhyw un sydd yn mynychu’r Sioe ar y diwrnod.
Y rhestr lawn o gyfranwyr yw:
- Yr Athro Iain Donnison – Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Yr Athro Christianne Glossop – Prif Swyddog Milfeddygol Cymru
- Abi Reader – Ffermwr llaeth o Forgannwg
- Brendan Griffin, MVB MWCVS – Milfeddygon Fenton, Cyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd Iechyd Da
- Yr Athro Glyn Hewinson – Cadair Sêr Cymru, Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg, Prifysgol Aberystwyth
Meddai’r Athro Glyn Hewinson o Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mi fydd y sesiwn hon yn gyfle euraidd i bawb o’r prif grwpiau sydd â diddordeb mewn TB gwartheg i ddod at ei gilydd a thrafod y datblygiadau diweddara yn ein brwydr yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn. Mae hi mor bwysig i ni gymryd mantais o gyfleoedd i gynnal trafodaeth barhaus a fydd yn hybu’n dealltwriaeth o faterion sy’n dylanwadu ar ymlediad TB mewn gwartheg yn ogystal â’n hymdrechion i’w waredu.
“Os ydym ni’n siarad am achosion yr haint, sut i drin achosion presennol, neu ein gwaith ehangach i adnabod ffyrdd newydd o rwystro TB mewn gwartheg, rwy’n gobeithio y gallwn ni gyffwrdd ar y prif ddatblygiadau i gyd yn y frwydr yn erbyn y broblem fwyaf sy’n wynebu iechyd anifeiliaid yn y wlad hon a llawer o wledydd eraill hefyd.”
Gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn, gofynnwn i chi gofrestru o flaen llaw drwy ebostio gaj30@aber.ac.uk.
Mae Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol mewn TB Gwartheg. Y nod yw gwaredu’r clefyd mewn gwartheg a datblygu a thyfu arbenigedd yr ymchwil academaidd yng Nghymru.
Mae’r Ganolfan yn cael ei chefnogi gan Sêr Cymru II, sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru sy’n rhan ohoni a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.