Y Brifysgol i godi arian er cof am Paul James
Roedd Paul James yn codi arian i ysbytai Bronglais a Threforys pan fu farw mewn damwain beic drasig.
25 Gorffennaf 2019
Mae myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth wedi pleidleisio i godi arian er cof am eu cyd-weithiwr Paul James wrth ddewis Elusen y Flwyddyn y Brifysgol ar gyfer 2019-20.
Gwnaed y cyhoeddiad gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn ystod y gyntaf o'r seremonïau Graddio 2019.
Roedd Paul wedi gweithio fel Swyddog Diogelwch ar gampysau Penglais a Gogerddan am dros 23 mlynedd. Ym mis Ebrill 2019 cafodd y gymuned gyfan ei syfrdanu a'i thristáu o glywed am ei farwolaeth drasig yn dilyn damwain wrth iddo hyfforddi ar gyfer taith seiclo i godi arian i elusen.
Dros y flwyddyn sydd i ddod bydd y Brifysgol yn codi arian ar gyfer Uned Monitro'r Galon Ward Dyfi yn Ysbyty Bronglais (Aberystwyth) a Ward ac Uned Dibyniaeth Uchel Gardiothorasig Cyril Evans yn Ysbyty Treforys (Abertawe) - sef yr achosion da yr oedd Paul ei hun yn eu cefnogi pan fu farw.
Dywedodd yr Athro Treasure: “Mae hon yn deyrnged addas i gyd-weithiwr yr ydym yn gweld ei eisiau'n fawr. Pan fu farw, roedd Paul yn hyfforddi ar gyfer taith seiclo 140 milltir o Ysbyty Bronglais i Ysbyty Treforys i godi arian i wardiau'r galon lle cafodd ef driniaeth ddwy flynedd yn ôl. Bydd yn anrhydedd i'r Brifysgol godi arian i'r achosion da hyn er cof am Paul.”
Dywedodd Dawn Jones, Pennaeth Nyrsio Ysbyty Cyffredinol Bronglais: "Rydym wrth ein boddau bod Prifysgol Aberystwyth wedi ein dewis yn Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2019/20. Rydym yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth ac edrychwn ymlaen at 12 mis llwyddiannus o godi arian. Mae Ward Dyfi yn Ysbyty Bronglais yn gofalu am gleifion a chanddynt gyflyrau ar y galon a chyflyrau anadlol a bydd yr arian a godir gan y Brifysgol yn ein cynorthwyo i ddarparu'r gofal iechyd gorau posibl i'n cleifion trwy eu gwneud yn fwy cysurus, buddsoddi yn yr offer meddygol diweddaraf a chreu amgylchedd mwy croesawgar. Bydd pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth ac yn cefnogi gwariant uwchlaw'r hyn y mae cyllid y GIG yn ei ganiatáu."
Meddai Deborah Longman, rheolwr codi arian gydag Elusen Iechyd Bae Abertawe: “Hoffem ddiolch i Brifysgol Aberystwyth am ddewis cefnogi dwy o'n hadrannau yn rhan o'u Helusen y Flwyddyn. Rydym ni'n darparu gwasanaethau cardiaidd hanfodol i gleifion o Geredigion, mewn partneriaeth â'n cyd-weithwyr ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, a byddwn yn defnyddio'r rhoddion a dderbynnir i wella'r gwasanaethau i'n cleifion.”
Nod Elusen y Flwyddyn y Brifysgol yw codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer achos da, a rhoi ffocws i staff, myfyrwyr a’r gymuned godi arian ar ei gyfer.
Bellach yn ei seithfed flwyddyn, mae’r elusennau sydd wedi elwa o’r cynllun yn cynnwys Ffagl Gobaith, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Bad Achub, Mind Aberystwyth ac Ambiwlans Awyr Cymru.