Aber ar y brig am fodlonrwydd myfyrwyr

03 Gorffennaf 2019

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymhlith y rhai mwyaf bodlon eu byd yn y Deyrnas Unedig.

Mae Aberystwyth ar y brig o blith prifysgolion Cymru a Lloegr ac yn ail yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd heddiw ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2019.

Gyda bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr o 91%, mae Aberystwyth 7 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 84%.

Yn ogystal, mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau ar y brig yng Nghymru am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Mae'r arolwg blynyddol yn gofyn i israddedigion blwyddyn olaf i sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o gwestiynau gan gynnwys ansawdd yr addysgu, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu, y gymuned ddysgu, llais y myfyrwyr a bodlonrwydd cyffredinol.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Fel Prifysgol, rydym am i'n myfyrwyr gael profiad o ansawdd uchel sy'n eu paratoi ar gyfer llwyddiannau yn y dyfodol. Felly, rydym wrth ein bodd gyda chanlyniadau ACF heddiw, sy'n dangos unwaith eto pa mor uchel y mae myfyrwyr yn ystyried ansawdd yr addysgu, yr adborth a'r cyfleusterau yn Aberystwyth. Mae eu cymeradwyaeth ganmoliaethus i'r Brifysgol hon yn adlewyrchu ymroddiad ein staff i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael yr addysg orau bosibl.”

Dywedodd Dhan Ramnatsing, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Llongyfarchiadau i Brifysgol Aberystwyth ar ganlyniad NSS arall rhagorol. Mae'n wych bod Aberystwyth yn llwyddo i gynnal blodlonrwydd myfyrwyr mor uchel flwyddyn ar ôl blwyddyn, a’i bod yn parhau ar y brig yng Nghymru. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio'n galed i sicrhau bod boddhad myfyrwyr yn parhau i fod yn uchel yn Aberystwyth a bod myfyrwyr Aber yn caru bywyd myfyrwyr.”

Caiff yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr ei gynnal gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU gan gynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cyngor Cyllido’r Alban ac Adran yr Economi yn Iwerddon.

Yn ogystal â’i llwyddiant yn yr ACF, derbyniodd Aberystwyth Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) a chafodd ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Dysgu canllaw prifysgolion TheTimes and Sunday Times Good University Guide yn 2018 a 2019.