Ymyriadau cynnar yn arwain at lai o droseddu ymysg pobl ifanc
Dr Gwyn Griffith (Chwith), Pennaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion a Dr Gareth Norris o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth.
04 Gorffennaf 2019
Mae ymchwil newydd yn dangos bod darparu cefnogaeth gynnar i bobl ifanc, ysgolion a rhieni yn arwain at ostyngiad mewn cyfraddau troseddu.
Mae’r gostyngiad yn nifer y troseddau gan bobl ifanc ers 2005 wedi bod yn destun astudiaeth ar y cyd gan Dr Gareth Norris o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth a Dr Gwyn Griffith, Pennaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion.
Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn rhifyn diweddaraf y cyfnodolyn academaidd Crime, Law and Social Change, mae Dr Norris a Dr Griffith yn dadlau fod gostyngiadau mewn cyfraddau troseddu yng Nghymru a Lloegr ers 2005 yn deillio yn bennaf o gwymp mewn troseddau gan bobl ifanc.
Maent yn dweud fod ymyriadau gan nifer o asiantaethau ar y cyd wedi’u targedu at bobl ifanc sydd mewn perygl o ddechrau troseddu yn eu darbwyllo rhag gwneud hynny.
Mae Dr Norris sy’n Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion a’r Swyddfa Gartref ar ddau brosiect arloesol ar ymyriadau cynnar.
Nod y prosiect cyntaf yn 2017-18 oedd cyfyngu cysylltiad pobl ifanc â throseddau difrifol a threfnedig.
Roedd y prosiect arloesol diweddaraf a gynhaliwyd rhwng Medi 2018 ac Ebrill 2019 yn edrych ar ymyriadau gyda phlant ifanc rhwng 10-12 oed oedd mewn perygl o gael eu denu i fyd troseddu difrifol a threfnedig.
Wrth siarad am y ddau brosiect, dywedodd Dr Norris: “Mae ein hymchwil yn dangos yn glir fod ymyriadau cynnar yn gweithio – er na welwyd cynnydd yn y ffigyrau i oedolion yn ddegawd diwethaf, y lleihad yn nifer y troseddau gan bobl ifanc sydd yn bennaf gyfrifol am y gostyngiad yn nifer y troseddau yng Nghymru a Lloegr ers 2005. Yn gyffredinol mae pobl ifanc yn gweld llai o droseddu ac mae hyn yn arwain at ostyngiad yn nifer y rhai sy’n mynd ymlaen i feithrin agweddau troseddol. Fodd bynnag, mae’n rhaid ystyried bod nifer o bobl ifanc yn fregus ac mewn perygl o gael eu hecsbloetio gan gangiau troseddol sy’n cyflenwi cyffuriau er enghraifft.”
Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Atal a Chyfiawnder Pobl Ifanc Ceredigion, Dr Gwyn Griffith: “Dros y 30 mlynedd diwethaf gwelwyd dealltwriaeth gynyddol o’r rhesymau pam bod rhai pobl ifanc yn cael eu denu at droseddu, ac mae timau amlddisgyblaethol wedi bod yn weithgar iawn er mwyn adnabod a chynnig cefnogaeth i bobl ifanc sydd “mewn perygl” o gyflawni troseddau difrifol. Maen bosibl bod y gwaith hwn wedi gwneud cyfraniad pwysig at ostyngiad sylweddol yn nifer y troseddau gan bobl ifanc ledled Cymru a Lloegr ers 2005.
“Hefyd, mae’r gostyngiadau yn nifer y bobl ifanc sydd yn troseddu wedi arwain at leihad yn nifer y bobl ifanc sydd yn tyfu i fod yn droseddwyr cyson, ac o ganlyniad mae cyfraddau troseddu yn gyffredinol ar draws Cymru a Lloegr wedi gostwng. Mae yna duedd y dyddiau yma i bortreadu pobl ifanc yn fwy peryglus a throseddol na’u rhagflaenwyr. Ond mae ystyriaeth wrthrychol o’r ffeithiau’n dangos taw’r gwrthwyneb sy’n wir, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gael cydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i gefnogi diogelwch a lles pobl ifanc yr ardal.”
Mae Dr Norris wedi cyfrannu at nifer o baneli ymgynghorol ar droseddu ymysg yr ifanc a throseddau difrifol a chyfundrefnol i’r Swyddfa Gartref a Heddlu De Cymru.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth Explaining the crime drop: contributions to declining crime rates from youth cohorts since 2005 yn Crime, Law and Social Change.