Gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan mewn cam posib ymlaen yn erbyn TB gwartheg
Mae dau brawf croen ar gyfer gwartheg wedi’u datblygu sy’n medru gwahaniaethu rhwng anifeiliaid sydd wedi’u heintio gyda TB gwartheg a’r rheini sydd wedi’u brechu yn erbyn y clefyd.
17 Gorffennaf 2019
Mae ymchwil gan ddau wyddonydd o Aberystwyth wedi paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiad allweddol posib yn y frwydr fyd-eang yn erbyn TB mewn gwartheg.
Fel a gyhoeddir yn rhifyn Gorffennaf 17 o Science Advances, mae dau brawf croen ar gyfer gwartheg wedi’u datblygu sy’n medru gwahaniaethu rhwng anifeiliaid sydd wedi’u heintio gyda TB gwartheg a’r rheini sydd wedi’u brechu yn erbyn y clefyd.
Cafodd y cyfuniad o broteinau angenrheidiol sy’n galluogi’r gwahaniaethu rhwng gwartheg sydd wedi’u brechu ac achosion cadarnhaol o TB gwartheg ei sefydlu gan dimau’r Athro Glyn Hewinson a’r Athro Martin Vordermeier o Brifysgol Aberystwyth tra roedden nhw’n gweithio ar ran Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Gan adeiladu ar eu gwaith nhw, mae’r ddau brawf croen wedi’u creu gan dîm rhyngwladol o wyddonwyr o Ethiopia, India, yr Iseldiroedd, y Deyrnas Unedig a’r UDA.
Mae’r prosiect wedi’i gefnogi gan Sefydliad Bill a Melinda Gates, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
Mae’r prawf croen traddodiadol ar gyfer TB yn dangos canlyniadau cadarnhaol ar gyfer gwartheg sydd â’r clefyd yn ogystal ag ar gyfer rheini sydd wedi’u brechu yn ei erbyn.
Wedi’i ddatblygu yn y 1900au cynnar o’r bacteriwm sy’n achos TB mewn gwartheg, dydi’r brechlyn ddim wedi’i ddefnyddio’n eang mewn gwartheg ac mae e wedi’i wahardd drwy’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag yn yr UDA a llawer o wledydd eraill.
Wrth wahaniaethu rhwng gwartheg sydd wedi’u brechu a rhai sydd wedi’u heintio, mi fydd y profion newydd yn hwyluso cyflwyno rhaglenni brechu trwy’r byd a allai lleihau ymlediad y clefyd bacterol hwn o wartheg i bobl.
Nawr, mi fydd rhaid i’r profion newydd gael eu gwerthuso mewn profion maes i lefel a argymhellir gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd.
Mi fydd rhaid ystyried hefyd materion rheoleiddiol pellach gan gynnwys eu diogelwch. Mae astudiaethau o’r fath eisoes wedi dechrau yn y DU ac yn India.
Mae’r Athro Glyn Hewinson yn arwain y Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg sydd newydd ei sefydlu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r Ganolfan yn cael ei chefnogi gan Sêr Cymru II, sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru sy’n rhan ohoni a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Athro Hewinson: “Rydym wedi gweithio am dros 20 mlynedd ar ddatblygu brechlynnau a profion diagnostig ar gyfer TB gwartheg. Mi fyddai’n fendigedig pe byddai un o’r profion hyn yn llwyddo i wella rheolaeth o TB gwartheg trwy’r byd. Byddai’r fath ddatblygiad yn cynrychioli penllanw gwaith aruthrol gan wyddonwyr ymroddgar a thalentog trwy’r byd, a cham sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion i reoli’r clefyd.
“Mae hwn wedi’i ddatblygu o ganlyniad i egluro cyfansoddiad genetig y bacteriwm sy’n achosion TB gwartheg ac nifer sylweddol o astudiaethau ar sut mae gwartheg yn ymateb i gael eu heintio â TB ac i’r brechlyn. Mae’r rhain yn feysydd ymchwil fydd yn parhau yma yng Nghanolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth.”
Meddai’r Athro Martin Vordermeier o Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae datblygiad y profion hyn yn gam allweddol ar y daith hir a heriol tuag at gyflwyno rhaglenni brechu TB er mwyn lleihau baich y clefyd hwn sydd mor anodd ei drin. Heb brofion o’r fath, ni fyddai modd dilyn strategaethau profi a difa traddodiadol ochr yn ochr â brechu, a ni fyddai modd monitro effeithiolrwydd y brechlyn na chyffredinrwydd y clefyd mewn anifeiliaid sydd wedi’u brechu mewn gwledydd lle nad oes modd fforddio’r fath strategaethau rheoli neu ble nad ydyn nhw’n dderbyniol yn gymdeithasol. Mae’n fraint i mi fod ar y daith hon yng nghwmni cymaint o gydweithwyr ymroddgar o gymaint o wledydd.”