Mathemateg yn cipio Adran y Flwyddyn
27 Ebrill 2018
Yr Adran Fathemateg yw Adran y Flwyddyn Gwobrau Staff a Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2018.
Academyddion o Aberystwyth ar baneli Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
25 Ebrill 2018
Mae pedwar academydd blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth wedi’u dewis fel aelodau o banel Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.
Aur ac arian i Brifysgol Aberystwyth yng ngwobrau WhatUni
20 Ebrill 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill y categori Uwchraddedig yng ngwobrau What Uni Student Choice Awards 2018.
Cheerleaders Aberystwyth yn codi hwyl am America
19 Ebrill 2018
Mae dwy fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth ar ei ffordd i’r Unol Daleithiau i gystadlu ym mhencampwriaeth codi hwyl y byd wythnos nesaf.
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Staff a Myfyrwyr 2018
17 Ebrill 2018
Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wedi cyhoeddi eu rhestr fer am eu Gwobrau Staff a Myfyrwyr.
Yr Athro Richard Wyn Jones yn traddodi Darlith O’Donnell yn Aberystwyth
16 Ebrill 2018
Bydd yr Athro Richard Wyn Jones yn traddodi Darlith O’Donnell Prifysgol Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Lun 30 Ebrill 2018, dan y teitl ‘Cenhedloedd, Cenedlaetholdebau a Gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol’.
Rhewlifegwyr o Aberystwyth am ddychwelyd i dyllu drwy rewlif uchaf y byd
12 Ebrill 2018
Mae rhewlifegwyr o Brifysgol Aberystwyth yn dychwelyd i fynyddoedd yr Himalaya, flwyddyn wedi taith lwyddiannus i dyllu drwy rewlif uchaf y byd.
Bygythiad tonnau gwres morol i gydbwysedd ecolegol cefnforoedd
11 Ebrill 2018
Mae ecolegwyr morol wedi rhybuddio bod cynnydd yn nifer a pharhad tonnau gwres morol yn fygythiad i gydbwysedd ecolegol y cefnforoedd.
Cantata Memoria Aberfan yn Aberystwyth
10 Ebrill 2018
Bydd Cantata Memoria: Er mwyn y plant gan Syr Karl Jenkins, a gyfansoddwyd i goffáu 50 mlynedd ers trasiedi Aberfan yn 2016, yn cael ei berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Sadwrn 21 Ebrill 2018.
Ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn astudio gwytnwch amaethyddiaeth y DU
09 Ebrill 2018
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio gwaith ffermwyr yng Nghymru fel rhan o astudiaeth ar draws yr Undeb Ewropeaidd (UE) i wytnwch y diwydiant amaeth a'i allu i ymateb i newid.
Y Cloc Ffractal
04 Ebrill 2018
Mi fydd oriawr, sydd wedi ei gwneud o 81 darn triongl o wydr, i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o ddydd Gwener 6 Ebrill 2018.
Canmol Cyfnewidfa Iaith Prifysgol Aberystwyth
04 Ebrill 2018
Mae prosiect unigryw sy’n hyrwyddo rhannu ieithoedd a diwylliannau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn canmoliaeth uchel yn seremoni wobrwyo flynyddol Cymdeithas Dysgu Gydol Oes y Prifysgolion (UALL).
Lansio cystadleuaeth codio creadigol i ysgolion
17 Ebrill 2018
Mae Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn galw ar ddisgyblion ysgol cynradd ledled Cymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth codio unigryw sy'n cyfuno barddoniaeth, chwedlau a chyfrifiaduro creadigol.
Beth sy'n llechu mewn ‘fatberg’?
23 Ebrill 2018
Bydd arbenigwyr ym maes parasitoleg o Brifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn rhaglen Channel 4 ‘Fatberg Autopsy: Secrets of the Sewers’, a fydd yn cael ei darlledu am 9 yr hwyr nos Fawrth 24 Ebrill 2018.
Academydd o Brifysgol Aberystwyth yn arwain astudiaeth ryngwladol i fioamrywiaeth
24 Ebrill 2018
Mae tŵf economaidd ar draws Ewrop a Chanolbarth Asia wedi cyfrannu at golledion mewn bioamrywiaeth, sydd yn eu tro yn peryglu ansawdd bywyd, yn ôl astudiaeth ryngwladol sydd wedi’i chyd-arwain gan academydd o Brifysgol Aberystwyth.
Aberystwyth yn y deg uchaf yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr
25 Ebrill 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth ymhith y deg prifysgol orau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr yn ôl rhifyn diweddaraf The Complete University Guide.
Dathlu Blwyddyn y Môr ar Ddiwrnod Ewrop yn y Bandstand yn Aberystwyth
30 Ebrill 2018
Bydd Prifysgol Aberystwyth a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dathlu Diwrnod Ewrop ar ddydd Mercher 9 Mai 2018 gydag arddangosfa o ymchwil morol yn y Bandstand yn Aberystwyth.