Yr Athro Richard Wyn Jones yn traddodi Darlith O’Donnell yn Aberystwyth
Yr Athro Richard Wyn Jones
16 Ebrill 2018
Bydd yr Athro Richard Wyn Jones yn traddodi Darlith O’Donnell Prifysgol Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Lun 30 Ebrill 2018.
Dan y teitl ‘Cenhedloedd, Cenedlaetholdebau a Gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol’, bydd y ddarlith yn ystyried canlyniadau refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, etholiad cyffredinol San Steffan 2015, refferendwm Brexit 2016 ac etholiad cyffredinol San Steffan 2017.
Bydd yr Athro Richard Wyn Jones yn dadansoddi tueddiadau’r cyfnod ac yn holi pam nad fod cynnifer o sylwebwyr ac ysgolheigion wedi methu proffwydo sut y byddai pobl mewn gwahanol genedlaetholdebau gwleidyddol yn pleidleisio.
“Mae’n fraint cael traddodi Darlith O’Donnell ac fe fyddai’n defnyddio’r cyfle i graffu ar gyfres o ganlyniadau sydd wedi sigo Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i’w seiliau yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai’r Athro Jones sy’n Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ac yn Athro Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd derbyniad gwin am 6yh cyn dechrau’r ddarlith am 6.30yh ym mhrif neuadd adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ar gampws Penglais nos Lun 30 Ebrill 2018.
Traddodir y ddarlith yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd ac mae mynediad i’r digwyddiad am ddim, gyda chroeso i bawb.
Bywgraffiad
Mae'r Athro Richard Wyn Jones yn Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ac yn Athro Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar wleidyddiaeth yn y Gymru sydd ohoni, gwleidyddiaeth ddatganoledig yn y Deyrnas Unedig a chenedlaetholdeb.
Cyn symud i Brifysgol Caerdydd, bu’n Athro Gwleidyddiaeth Cymru ac yn sylfaenydd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r Athro Jones yn ddarlledwr cyson ac uchel ei barch, yn gynnig sylwadau ar wleidyddiaeth Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg i’r BBC yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
Mae hefyd yn golofnydd cyson i’r cylchgrawn materion cyfoes, Barn, yn aelod o'r Academi Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Darlithoedd O’Donnell
Sefydlwyd Darlithoedd O'Donnell trwy haelioni ewyllys CJ O'Donnell i drafod pynciau sy'n gysylltiedig ag astudiaethau Celtaidd ac maen nhw’n cael eu cynnal yn rheolaidd yng Nghymru, Caeredin a Rhydychen.
Gwyddel a fu farw ym 1934 oedd Charles James O'Donnell. Roedd yn aelod dylanwadol, ond eto’n rebel, o Wasanaeth Sifil India, a bu’n feirniadol iawn o bolisi Llywodraeth Prydain yn India ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif.
Bu’n Aelod Seneddol dros Newington Walworth o 1906 hyd 1910, ac roedd ganddo ddiddordeb yn y dylanwad Celtaidd ar ieithoedd a phobl Prydain.
AU17218