Ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn astudio gwytnwch amaethyddiaeth y DU
Chwith i'r dde: Yr ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth; Susan Fowler, Dr Phillipa Nicholas-Davies a'r Athro Peter Midmore.
09 Ebrill 2018
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio gwaith ffermwyr yng Nghymru fel rhan o astudiaeth ar draws yr Undeb Ewropeaidd (UE) i wytnwch y diwydiant amaeth a'i allu i ymateb i newid.
Mae'r gwaith gan ymchwilwyr yn IBERS (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ac Ysgol Fusnes Aberystwyth yn canolbwyntio ar hanesion bywyd ffermwyr unigol yng Nghymru sy'n gweithio yn y sectorau cig oen a chig eidion.
Bydd yr astudiaethau'n cyfrannu at astudiaeth ehangach yr UE a fydd yn helpu gwneuthurwyr polisi a'r sector amaeth i fod yn fwy cynaliadwy ac i ddatblygu systemau ffermio a all ymdopi'n well ag ansicrwydd.
Bydd hyn o bwys cynyddol i ffermio yn y DU ar ôl Brexit, a bydd yn cyfrannu at ffurf polisi amaethyddol newydd Prydain, lle bydd datblygu gwytnwch y sector amaeth yn nod pwysig.
Er mwyn ymdrin â'r heriau hyn a heriau eraill yn y dyfodol, bydd y grŵp o wyddonwyr o’r UE sy'n gweithio ar y cyd fel rhan o'r prosiect SURE-Farm yn archwilio ffyrdd y gall llunwyr polisi a busnesau amaethyddol edrych y tu hwnt i strategaethau traddodiadol.
Yn ogystal â Brexit, mae ffermwyr y DU yn wynebu ansicrwydd megis gostyngiad sylweddol neu golli cymorthdaliadau, mynediad i gynhyrchion diogelu planhigion, costau llafur, newid cysylltiadau masnachol ac ansicrwydd prisiau cynhyrchwyr a chyfraddau cyfnewid.
Bydd y rhain ar ben y pwysau sydd eisoes yn bodoli o ymateb i newid dewisiadau defnyddwyr, canfyddiadau'r cyhoedd am amaethyddiaeth a thafoli perfformiad busnes fferm gyda chynaliadwyedd amgylcheddol, ochr yn ochr â risgiau amgylcheddol parhaus megis digwyddiadau tywydd eithafol.
Prifysgol Aberystwyth a Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned (CCRI) ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw yw partneriaid SURE-Farm yn y DU, sy'n cynnwys 11 rhanbarth astudiaeth achos ledled Ewrop.
Dan arweiniad yr Athro Peter Midmore o Ysgol Fusnes Aberystwyth, mae’r tîm yn Aberystwyth hefyd yn astudio gwytnwch ffermydd âr yn nwyrain Lloegr.
Dywedodd yr Athro Midmore: “Mae ein hastudiaeth gyntaf yng Nghymru wedi pwysleisio pwysigrwydd canolog pobl, eu hangerdd, eu hiechyd, eu hymdeimlad o gyfrifoldeb a’u gweledigaeth hirdymor o oroesiad ffermydd teuluol a'r diwylliant sy'n mynd gyda nhw.”
"Lle bynnag y bydd polisi amaethyddol y DU yn y dyfodol, bydd y cyfraniadau pwysicaf i wydnwch yn dod o'r sector amaethyddol ei hun. Arbrofi ffermwyr, arloesi a chyfnewid gwybodaeth rhwng ffermwr yw sail hyfywedd ariannol y fferm”, ychwanegodd.
Mae'r prosiect yn cael ei gydlynu gan Brifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd ac fe'i harweinir gan yr Athro Miranda Meuwissen.
Dywedodd yr Athro Meuwissen: "Mae heriau'n wahanol ar draws ardaloedd amaethyddol yn yr Undeb Ewropeaidd. Er enghraifft, mae rhai rhanbarthau yn fwy agored i risgiau hinsoddol neu afiechyd, tra bod eraill yn wynebu newid agweddau defnyddwyr tuag at amaethyddiaeth. Bydd gan hyn oblygiadau ar gyfer y llwybrau tuag at ddatblygu gwytnwch ar draws Ewrop mewn tri maes: cadernid, y gallu i addasu a thrawsnewid. Cryfder SURE-Farm yw ehangder ei hastudiaethau achos ar draws Ewrop, gan ganiatáu dadansoddi cymharol a rhannu arferion gwytnwch ac arferion rheoli arfer gorau.”