Aur ac arian i Brifysgol Aberystwyth yng ngwobrau WhatUni

20 Ebrill 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill y categori Uwchraddedig yng ngwobrau What Uni Student Choice Awards 2018.

Ac am yr ail flwyddyn yn olynol, enillodd Aberystwyth y wobr arian yn y categori Rhyngwladol yn seremoni wobrwyo WhatUni a gafodd ei chynnal yn Llundain ddydd Iau 19 Ebrill 2018.

Yn ogystal â’r categorïau Uwchraddedig a Rhyngwladol, roedd Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd y rhestr fer am bum gwobr arall; Prifysgol y Flwyddyn, Llety, Clybiau a Chymdeithasau, Cwrs a Darlithwyr a Rhoi Nôl.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi cyrraedd y 10 uchaf yn y DU ym mhob un o’r categoriau y cafodd ei chynnwys ar y rhestr fer, gan gynnwys 5ed am wobr Prifysgol y Flwyddyn.

Casglwyd mwy na 36,000 o adolygiadau a ymwelwyd â thros 100 o brifysgolion er mwyn llunio’r rhestr.

Ar gyfer gwobrau 2018, enwebwyd 43 sefydliad addysg uwch ar draws pymtheg categori, a chydnabyddiaeth gan eu myfyrwyr o’r profiad prifysgolaidd rhagorol y maent yn ei gynnig.

Mae'r gwobrau wedi eu seilio ar gyfartaledd o ddegau o filoedd o adolygiadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr a'u cyhoeddi ar Whatuni.com.

Dangosodd yr arolwg blynyddol hefyd mai Cymru sydd â’r myfyrwyr mwyaf hapusaf ar draws y Deyrnas Unedig.

Bellach yn eu pumed flwyddyn, mae'r gwobrau yn darparu dewis amgen a diduedd i’r systemau traddodiadol o raddio prifysgolion, a hynny o dan arweiniad myfyrwyr.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Aberystwyth wedi ennill y categori Uwchraddedig, y wobr arian am Rhyngwladol ac wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pump categori arall. Mae’r gwobrau hyn yn arwyddocaol am eu bod wedi’u seilio ar adborth myfyrwyr ac maent yn ategu canlyniadau Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2017 a ddangosodd bod myfyrwyr Aberystwyth ymhlith y mwyaf bodlon yn y DU ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr. Mae safon yr addysg a’r profiad myfyriwr ehanghach sydd yn cael ei gynnig yma yn Aberystwyth hefyd wedi eu cydnabod gan The Times and Sunday Times Good Unviersity Guide 2018 ar ffurf gwobr Prifysgol y Flwyddyn y DU am Ansawdd Dysgu.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn haeddiannol iawn i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y profiad myfyrwyr sy’n cael ei gynnig yn Aberystwyth, ac mae i hyn gael ei gydnabod gan ein myfyrwyr yn adrodd cyfrolau am ymroddiad cydweithwyr ar draws y sefydliad sy’n cyfrannu cymaint tuag at wneud Aberystwyth yn le mor hyfryd i fyw ac i ddysgu.”

Cyn y noson wobrwyo, dywedodd Eleni Cashell, Golygydd Whatuni: “Mae enwebiad ar gyfer gwobr yn gyflawniad enfawr, gan mai myfyrwyr eu hunain yw unig feirniaid gwobrau WhatUni. Mae'n dangos i ddarpar fyfyrwyr ac i'r sector addysg uwch bod eich sefydliad yn cynnig gwerth am arian, yn darparu profiad da i fyfyrwyr a bod ganddo gymuned o fyfyriwr hynod fodlon sy’n derbyn y gefnogaeth mae ei hangen.”