Canmol Cyfnewidfa Iaith Prifysgol Aberystwyth
04 Ebrill 2018
Mae prosiect unigryw sy’n hyrwyddo rhannu ieithoedd a diwylliannau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn canmoliaeth uchel yn seremoni wobrwyo flynyddol Cymdeithas Dysgu Gydol Oes y Prifysgolion (UALL).
Cafodd y wobr yng nghategori rhyngwladol y Gymdeithas ei chyflwyno i’r Gyfnewidfa Iaith, a gydlynir gan Adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, ac mae’n cydnabod ymgysylltu arloesol gan gynnwys partneriaethau sy’n creu newid mewn cyd-destun rhyngwladol neu drawswladol.
Sefydlwyd cynllun gwobrwyo’r UALL yn 2009 i ddathlu prosiectau, rhaglenni, partneriaethau ac ymchwil sy’n hyrwyddo dysgu gydol oes yn y sector addysg uwch.
Defnyddio ffurf dysgu tandem y mae’r Gyfnewidfa Iaith ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda dysgwyr yn gweithio gyda phartner o wlad arall neu rywun sy’n siarad yr iaith maen nhw’n dymuno ei dysgu.
Dywedodd Antonio Barriga Rubio, trefnydd y prosiect a chydlynydd Ieithoedd Modern a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd yn derbyn y gydnabyddiaeth yma. Mae’r UALL wedi cydnabod ymgysylltiad arloesol y Gyfnewidfa Iaith a’r modd y mae’n hyrwyddo newid mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae’n cydnabod y gall y Gyfnewidfa gael effaith drawsnewidiol ar fywydau pobl.
“Mae 130 o bobl wedi cymryd rhan yn ystod y flwyddyn academaidd hon ac rydym yn cyfnewid dros 30 o ieithoedd - o Bersieg i Japaneaidd, Mandarin i Ffrangeg, a Chymraeg i Almaeneg. Yn ogystal â gweithio wyneb-yn-wyneb, mae gan aelodau’r gyfnewidfa gysylltiadau hefyd â dysgwyr mewn prifysgolion eraill yn Sbaen, Ffrainc a’r Almaen drwy Skype.
“Mae Prifysgol Aberystwyth yn Brifysgol amlddiwylliannol ac amlieithog, sydd â staff a myfyrwyr o ddeutu 100 cenedl yn siarad mwy na 40 iaith wahanol. Ar wahân i’r dosbarthiadau iaith rheolaidd sydd ar gael drwy'r Adran Dysgu Gydol Oes a chyrsiau eraill y Brifysgol, rydym yn credu y dylai myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach gael cyfle i fanteisio ar yr amgylchfyd unigryw hwn. Mae’r ffaith i ni wneud gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi ac mae angen i ni dangos ein bod yn falch cael bod yn rhan o hyn.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Judy Broady-Preston: “Mae cymhwysedd mewn ieithoedd eraill yn agor amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous i fyfyrwyr. Mae’r prosiect cyffrous hon a ddatblygwyd gan Antonio a’r tîm Dysgu Gydol Oes yn dyst i’n hymrwymiad i amlieithrwydd yn Aberystwyth ac yn rhan o gyfres o gyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr yma.”
Barn myfyrwyr
Dyma rai sylwadau gan fyfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o’r Gyfnewidfa Iaith:
Roksana Cowan - “Rwy’n llwyr argymell cymryd rhan yn y Gyfnewidfa Iaith fel ffordd o gyfoethogi astudiaethau iaith. Mae’r hyn dwi wedi’i ddysgu wedi bod yn amhrisiadwy.”
Amie Heffernan - “Mae’r profiad wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac mae fy mhartner iaith yn wych. Mae’n cywiro fy iaith ac mae’n gefnogol iawn.”
Dysgu iaith arall yn Aberystwyth
Fel rhan o ddarpariaeth Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth, gall myfyrwyr hefyd ddewis dilyn un modiwl y tymor mewn iaith nad sy’n rhan o’u prif gynllun gradd.
Mae’r modiwlau iaith sy’n cael eu cynnig am ddim yn 2018 yn cynnwys Arabeg, Llydaweg, Tsieinëeg, Groeg, Japaneaidd a Rwsieg gyda detholiad o gyrsiau ieithoedd modern ar gael am bris gostyngedig mewn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg.
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) hefyd yn cynnig gwersi Cymraeg am ddim i fyfyrwyr sydd am ddysgu’r iaith.
AU16418