Lansio cystadleuaeth codio creadigol i ysgolion
Chwith i’r dde: Disgyblion Ysgol Plascrug (ar eu haestedd) Tomas Pearson, Erin Jack, Ifan Rukov a James Homer yn lansiad y gystadleuaeth animeiddion Scratch yng nghwmni Carol Macy, athrawes yn Ysgol Plascrug, a Eurig Salisbury a Martin Nelmes o Brifysgol Aberystwyth.
17 Ebrill 2018
Mae Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn galw ar ddisgyblion ysgol cynradd ledled Cymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth codio unigryw sy'n cyfuno barddoniaeth, chwedlau a chyfrifiaduro creadigol.
Yr her i blant 7-11 oed yw animeiddio cerdd gan Eurig Salisbury, sy’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, yn awdur arobryn ac yn gyn Fardd Plant Cymru.
Dewis arall yw animeiddio chwedl Gymreig – un o straeon y Mabinogi, er enghraifft.
Bydd gwobrau ar gyfer y timau buddugol yn ogystal ag ymweliad â’r ysgol fuddugol gan dîm o wyddonwyr cyfrifiadurol o Brifysgol Aberystwyth a fydd yn cynnal diwrnod o weithgareddau codio addysgol.
Nod y gystadleuaeth yw annog plant i roi cynnig ar godio a dysgu sgiliau newydd ar gyfer gweithle’r dyfodol.
Dywedodd Dr Hannah Dee, Uwch Ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth ac un o’r trefnwyr: "Mae codio yn sgil ddigidol a fydd yn ddi-os yn dod yn gynyddol bwysig. Mae pobl yn aml yn meddwl mai taenlenni neu rifau yn bennaf yw codio. Nod y gystadleuaeth hon yw dangos ei fod yn llawer mwy na hynny – mae modd codio lluniau, animeiddiadau, a hyd yn oed farddoniaeth. Mae codio creadigol yn rhywbeth y gall pawb roi cynnig arni, yn enwedig drwy ddefnyddio Scratch sef iaith raglenni i blant.
"Mae gennym bedair prif wobr eleni, gyda'r buddugwyr yn ennill cit cyfrifiadur Kano neu Liniadur Pi-top ac rydym yn ddiolchgar i'r ddau gwmni am eu nawdd a'u cefnogaeth."
Dywedodd cyd-drefnydd y gystadleuaeth Martin Nelmes sydd hefyd yn ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg: “Fel Adran, rydym yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru gyda'n gweithgareddau codio a’n canfyddiad yw bod codio creadigol fel hyn yn tanio dychymyg myfyrwyr. Fe wnaethon ni gynnal ein cystadleuaeth codio cyntaf y llynedd ac roedd y cyflwyniadau a gafwyd yn ysbrydoledig. Alla’i ddim aros i weld beth fydd disgyblion yn ei gynhyrchu eleni."
Aeth y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y llynedd i Ysgol Tre Ioan yn Sir Gaerfyrddin, gyda'r ail yn mynd i Ysgol Gynradd Pentrefoelas ym Metws y Coed yng Ngwynedd, ac Ysgol Brynnau, Pontyclun, Rhondda Cynon Taf, yn drydydd.
Dywedodd Eurig Salisbury: "Mae’n fraint cael bod yn rhan o'r gystadleuaeth godio eto eleni a gweld plant ifanc yn mynd ati i cyfrifiadura’n greadigol er mwyn dylunio un o fy ngherddi. Mae'n weithgaredd hwyliog ond mae hefyd yn addysgiadol gyda chodio yn dod yn sgil gynyddol sylfaenol i'r rheiny sy'n tyfu lan yn yr 21ain ganrif. "
Mae manylion pellach am y gystadleuaeth a sut i wneud cais ar gael ar wefan yr Adran Gyfrifiadureg.
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio gyda sesiwn codio arbenning yn Ysgol Plascrug Aberystwyth ddydd Mawrth 17 Ebrill 2018.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Gorffennaf 2018 ac fe gaiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi ym mis Medi 2018.