Academyddion o Aberystwyth ar baneli Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

25 Ebrill 2018

Mae pedwar academydd blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth wedi’u dewis fel aelodau o banel Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.

Penodwyd yr Athro Colin McInnes o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymgynghorydd rhyngddisgyblaethol ac aelod ar is-banel 19: Astudiaethau Gwleidyddiaeth a Rhyngwladol.

Yn ogystal, cafodd yr Athro McInnes ei benodi yn aelod panel ar gyfer y ‘cyfnod prawf’ a fydd yn datblygu’r arweiniad manwl a’r criteria ar gyfer REF 2021, yn ogystal â’r ‘cyfnod asesu’ a fydd yn cynnwys asesiad lawn o gyflwyniadau sefydliadau.

Mae’r Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) wedi’i benodi fel aelod ar Is-banel 6 am y cyfnod asesu: Amaethyddiaeth, y Gwyddorau Milfeddygol a Bwyd.

Penodwyd yr Athro Qiang Shen, Cyfarwyddwr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg fel aelod ar is-banel 11 am y cyfnod asesu: Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Mae’r Athro Phillipp Schofield, Athro mewn Hanes Canoloesol o’r Adran Hanes a Hanes Cymru, wedi’i benodi fel aelod ar is-banel 28 am y cyfnod asesu: Hanes.

Mae Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 2014 gan ddisodli’r Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE), yn asesu ansawdd yr ymchwil ym mhrifysgolion a cholegau addysg uwch y DU, ac yn cael ei gynnal gan y pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU.

Caiff yr ymchwil ei farnu ar sail allbynnau (e.e. cyhoeddiadau, perfformiadau, ac arddangosfeydd), eu heffaith y tu hwnt i academia, a’r amgylchedd sy’n cefnogi ymchwil, gyda’r canlyniadau’n hysbysu dosraniad cyllid ymchwil.

Dewiswyd aelodau’r panel o blith 4,000 o enwebiadau i’r pedwar prif banel a’r 34 is-banel.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure: “Hoffwn longyfarch fy nghydweithwyr ar gael eu henwebu gan eu cyfoedion am y rolau pwysig yma ym mhroses REF 2021. Mae eu penodiad yn adlewyrchu eu henw da a’u harbenigedd yn eu meysydd pwnc, a’u hymrwymiad i’w disgyblaethau academaidd.”

Nodwyd yng nghanlyniadau diweddaraf REF yn 2014 fod 95% o weithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth o safon gydnabyddedig ryngwladol neu uwch, gydag ymchwil o safon byd (4*) yn cael ei adnabod ym mhob un o’r 17 Uned Asesiad a gyflwynwyd.