Cheerleaders Aberystwyth yn codi hwyl am America

Mae Chris Welter (chwith) a Imogen Wild wedi eu dewis gystadlu ym Mhencampwriaethau Byd Codi Hwyl a Dawns Ffederasiwn All Star yr Unol Daleithiau (USASF) yn Florida.

Mae Chris Welter (chwith) a Imogen Wild wedi eu dewis gystadlu ym Mhencampwriaethau Byd Codi Hwyl a Dawns Ffederasiwn All Star yr Unol Daleithiau (USASF) yn Florida.

19 Ebrill 2018

Mae dwy fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth ar ei ffordd i’r Unol Daleithiau i gystadlu ym mhencampwriaeth codi hwyl y byd wythnos nesaf.

Dewisiwyd dau aelod o dîm Tarannau Aberytwyth, Imogen Wild a Chris Welter i gystadlu ym Mhencampwriaethau Byd Codi Hwyl a Dawns Ffederasiwn All Star yr Unol Daleithiau (USASF) yn Florida rhwng 22 Ebrill - 2 Mai.

Mae Imogen Wild a Chris Welter yn ddwy gymnast profiadol ac hefyd yn aelodau o dîm  elît Telford Cheerforce Odyssey, sydd wedi cyrraedd pencampwriaethau’r byd am y tro cyntaf eleni.

Byddant yn cystadlu gyda Cheerforce Odyssey yn erbyn goreuon y byd yn y dosbarth Tîm Bach Cymysg Agored Ryngwladol.

Dywedodd Chris, sydd yn astudio Ffilm, Theatr a Theledu: “Roedd Imogen a minnau'n cystadlu mewn gymnasteg cyn dod i Aberystwyth ac eisioes yn meddu ar gampau styntio a chodymu, felly roedd ymuno â’r Tarannau yn gam naturiol, a chystadlu ar lefel uwch gyda Cheerforce Odyssey.”

Bob tair wythnos mae'r merched yn teithio i Telford am benwythnos o hyfforddiant dwys. Maent yn treulio dwy awr y dydd yn hyfforddi ac mae gofyn iddynt ffilmio y sesiynau er mwyn profi eu bod yn cadw at y gyfundrefn gywir a gwella eu sgiliau.

Meddai Imogen, sy'n astudio Gwyddorau Daearegol Amgylcheddol: “Mae'n ymrwymiad enfawr ond oherwydd bod rhaid imi strwythuro fy niwrnod o gwmpas astudio a hyfforddi, rwy'n cyflawni lot mwy. Mae gan y gamp fanteision fel pob camp arall, mae'n her gorfforol, yn ffordd effeithiol o ddianc rhag pwysau gwaith academaidd ac mae'n gwneud imi gysgu'n well.”

Mae’r gamp yn ehangu yn gyflymach nag unryw un arall yn y Deyrnas Unedig ond mae hefyd yn un o’r campau cyswllt mwyaf peryglus.

Mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) newydd gymeradwyo Codi Hwyl fel camp am gyfnod brawf o dair blynedd ac wedi clustnodi iddi arian datblygu. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd yr IOC yn penderfynu a ddylid ei derbyn fel un o chwaraeon yn llawn y Gemau Olympaidd.

Daw Imogen o Ynys Manaw a Chris o Lwcsembwrg ac maent wedi bod yn hyfforddi y Tarannau ers dwy flynedd.

Mae'r clwb yn cynnwys amrywiaeth o dîmau dawns a champau ac wedi profi llwyddiant mewn cystadlaethau yng Nghymru a’r DU.

Eu gobaith yw y bydd eu profiad ym mhencampwriaethau’r byd o fudd i‘r Tarannau ac yn annog eraill i ymuno.

Dywedodd Imogen: “Rydym yn treulio oriau yn hyfforddi’r Tarannau. Mae'n ffordd dda o annog pobl sydd â fawr o ddiddordeb mewn chwaraeon i gadw'n heini. Nid yw’n gamp ailadroddus fel nofio neu redeg, a mae rhaid ichi ymddiried yn llwyr yn eich cyd-aelodau. Mae'n gwella iechyd a hapusrwydd oherwydd bod pawb yn gorfod cydweithio ac mae pawb yn gorffen y sesiynau gyda gwên.”

Ychwanegodd Chris: "Hoffwn barhau i hyfforddi ar ôl fy nyddiau cystadlu. Mae wedi bod yn wych ar gyfer fy ngradd Ffilm, Theatr a Theledu gan ei fod yn gwella fy adnabyddiaeth o’ng nghorff ac yn wirioneddol helpu gyda'r ymarferion cynhesu ar gyfer dawns a pherfformio.”

Hwyluswyd presenoldeb Imogen a Chris ym mhencapwriaethau codi hwyl y byd gan gyfraniad ariannol o Gronfa Aber, sy’n rhoi cyfle i gyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol gefnogi prosiectau sy’n cyfoethogi profiad myfyrwyr.

Mae Cronfa Aber eisoes wedi eu cefnogi yn ariannol i gyrraedd safon uchel yn y gamp drwy amryw brosiectau ac yn ariannu eu costau teithio i Florida.

Dywedodd Hayley Goddard, Swyddog Cyfrannu Unigolion: “Rydym yn falch iawn bod Cronfa Aber yn cefnogi Chris ac Imogen i gystadlu ar safon mor uchel. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n cyn-fyfyrwyr a'n cefnogwyr am eu cyfraniad hael i alluogi hyn a rhoi cyfle unigryw i’r merched. Dymunwn yn dda i’r ddwy ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith y bydd eu profiad a'u brwdfrydedd yn ei gael ar glwb y Tarannau yn y dyfodol.”

Mae’r merched hefyd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Undeb y Myfyrwyr.

Dywedodd Jessica Williams, Swyddog Cyfleoedd UCM: “Mae'n wych bod yr undeb yn gallu cyfrannu arian tuag at gronfa sydd yn hybu ymdrechion y merched mewn camp mor heriol.”