Mathemateg yn cipio Adran y Flwyddyn
Yr Athro Simon Cox yn derbyn gwobr Adran y Flwyddyn ar ran yr Adran Fathemateg
27 Ebrill 2018
Yr Adran Fathemateg yw Adran y Flwyddyn Gwobrau Staff a Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2018.
Cafodd llwyddiant Mathemateg ei gyoeddi yn seremoni ddiweddaraf y gwobrau blynyddol sydd yn dathlu cyfraniadau eithriadol staff, myfyrwyr, cynrychiolwyr academaidd ac adrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cynhaliwyd y seremoni, sydd yn cael ei threfnu gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda chefnogaeth y Brifysgol, yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Iau 26 Ebrill 2018.
Bellach yn eu seithfed flwyddyn, denodd gwobrau eleni 238 o enwebiadau mewn 16 categori, gyda'r holl wobrau wedi'u henwebu, eu pennu a'u cyflwyno gan fyfyrwyr.
Coronwyd yr Athro Matthew Jarvis o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Ddarlithydd y Flwyddyn.
Wrth sôn am lwyddiant y gwobrau, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Unwaith eto eleni rydym wedi cael noson wych, a chyfle i ddiolch a dathlu pobl ac adrannau eithriadol sy'n cyfrannu at wneud y Brifysgol hon yn un mor arbennig. Roedd y teyrngedau twymgalon gan fyfyrwyr i ddarlithwyr ac adrannau unigol yn hyfryd, ac yn atgyfnerthu'r rhesymau pam i Brifysgol Aberystwyth gael ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yn y DU ar gyfer Ansawdd Dysgu gan The Times & Sunday Times 2018 Good University Guide. Llongyfarchiadau mawr i bob enillydd ac enwebai, ac i Undeb y Myfyrwyr am drefnu gyda’r fath urddas ac effeithlonrwydd.”
Dywedodd Emma Beenham, Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth am 2017-18: “Mae Gwobrau’r Staff a’r Myfyrwyr yn dathlu popeth sy'n gwneud Prifysgol Aberystwyth yn wych - ein staff sy'n mynd y filltir ychwanegol i ddod â phwnc yn fyw neu sy’n rhoi cymorth i fyfyrwyr, myfyrwyr sy'n cynrychioli a chynorthwyo’u cyfoedion mewn ffordd ragorol, a’r staff sy'n gweithio’n dawel y tu ôl i’r llenni ac sydd yn gwneud cyfraniad mor werthfawr at fywyd dydd i ddydd y Brifysgol.”
Enillwyr Gwobrau Staff a Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Aber 2018 yw:
Darlithydd y Flwyddyn
Yr Athro Matthew Jarvis, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Aelod Staff Cymorth / Gwasanaeth y Flwyddyn
Stephen Fearn, Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg
Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
Sabrina Mangham, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Myfyriwr Gwirfoddol y Flwyddyn
Geena Whiteman, Ysgol Fusnes Aberystwyth
Swyddog Gwirfoddol y Flwyddyn
Megan Hatfield, Ysgol Fusnes Aberystwyth
Swyddog Gwirfoddol y Flwyddyn
Ammaara Nalban, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Mentor Myfyrwyr y Flwyddyn
Dana Barringham, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Goruchwyliwr y Flwyddyn - Ôl-raddedig
Dr Berit Bliesemann de Guevara, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Goruchwyliwr y Flwyddyn - Ôl-raddedig
Yr Athro Milja Kurki, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Goruchwyliwr y Flwyddyn – Israddedigion
Dr Simon Payne, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg
Dr James Ionawr-McCann
Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
Deborah Kobani, Ysgol y Gyfraith Aberystwyth
Gwobr Addysgu Arloesol
Dr Val Nolan, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Tiwtor Personol y Flwyddyn
Dr Rachel Rahman, Adran Seicoleg
Gwobr Adborth Eithriadol
Alexandros Koutsoukis, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Gwobr Cam Nesaf
Arwyn Edwards, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Gwobr Arwyr Etholiad
Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
Adran y Flwyddyn
Mathemateg