Aberystwyth yn y deg uchaf yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr
25 Ebrill 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr yn ôl rhifyn diweddaraf The Complete University Guide.
Dengys The Complete University Guide 2019, a gyhoeddwyd ddydd Mercher 25 Ebrill 2018, fod Aberystwyth yn chweched yn y DU ac ar y brig yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr.
Wrth ddadansoddi meysydd pwnc, mae Ysgrifennu Creadigol a Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd ar frig y tabl yn y DU am fodlonrwydd.
Mae pedwar pwnc arall ar y brig yn y DU am Ragolygon Graddedigion, sef Astudiaethau Celtaidd, Cyfrifiadureg, Ffrangeg, ac Ysgrifennu Creadigol, gydag Astudiaethau Iberaidd (Sbaeneg) yn ail.
Mae 20 maes pwnc allan o 26 ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi gwneud cynnydd yn y tablau cynghrair ar gyfer pynciau.
Yn dilyn esgyn 19 safle y llynedd, mae taith Prifysgol Aberystwyth i fyny tablau cynghrair y sector yn parhau, gan ddringo tri safle arall yn nhabl cyffredinol The Complete University Guide 2019.
Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Ochr yn ochr ag addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel, mae bodlonrwydd myfyrwyr yn un arall o gryfderau Aberystwyth. Mae'r rhifyn diweddaraf o’r Complete University Guide yn brawf ychwanegol bod myfyrwyr sy'n dod i Aberystwyth yn cael y profiad prifysgol gorau posibl ac yn adleisio ein canlyniadau rhagorol yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2017 yn ogystal â dyfarnu gwobr Prifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu The Times / Sunday Times Good University Guide 2018.”
Mae canfyddiadau The Complete University Guide 2019 yn dilyn llwyddiannau Prifysgol Aberystwyth yng ngwobrau WhatUni Student Choice Awards a gynhaliwyd ddydd Iau 19 Ebrill 2018.
Dyfarnwyd y wobr Aur i Brifysgol Aberystwyth yn y categori Ôl-raddedig ac Arian yn y categori Rhyngwladol. Roedd Aberystwyth hefyd yn y Deg Uchaf ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn, Llety, Cyrsiau a Darlithwyr, Clybiau a Chymdeithasau, a Rhoi Nôl.
Seiliwyd The Complete University Guide ar ddeg ffon fesur: Bodlonrwydd Myfyrwyr, Ansawdd Ymchwil, Dwysedd Ymchwil, Safonau Mynediad, Cymhareb Myfyriwr: Staff; Gwariant ar Wasanaethau Academaidd; Gwariant ar Gyfleusterau Myfyrwyr; Graddau Anrhydedd Da; Rhagolygon a Chyflawniad Graddedigion, ac mae'n cynnwys 131 o sefydliadau.
Mae tablau pwnc unigol yn seiliedig ar bum ffon fesur; Bodlonrwydd Myfyrwyr, Ansawdd Ymchwil, Dwysedd Ymchwil, Safonau Mynediad a Rhagolygon Graddedigion, ac yn cynnwys 142 o brifysgolion, colegau prifysgol a sefydliadau addysg uwch arbenigol.
Mae rhagor o wybodaeth am The Complete University Guide 2019 ar gael ar-lein.