Academydd o Brifysgol Aberystwyth yn arwain astudiaeth ryngwladol i fioamrywiaeth
Yr Athro Mike Christie o Ysgol Fusnes Aberystwyth, cyd-arweinydd yr adroddiad ar ran Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Systemau Ecosystemau (IPBES)
24 Ebrill 2018
Mae tŵf economaidd ar draws Ewrop a Chanolbarth Asia wedi cyfrannu at golledion mewn bioamrywiaeth, sydd yn eu tro yn peryglu ansawdd bywyd, yn ôl astudiaeth ryngwladol sydd wedi’i chyd-arwain gan academydd o Brifysgol Aberystwyth.
Cafodd yr astudiaeth ei chyd-arwain gan yr Athro Mike Christie o Ysgol Fusnes Aberystwyth ar ran Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Systemau Ecosystemau (IPBES), a’i chyflwyno mewn cynhadledd yn Medellin, Colombia ddydd Gwener 23 Mawrth 2018.
Yn ôl y gwaith ymchwil a wnaed ar gyfer IPBES gan yr Athro Christie a’i gydweithwyr, mae poblogaethau 42% o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion daearol a 26% o'r rhywogaethau morol sy’n hysbys yn Ewrop a Chanolbarth Asia wedi lleihau dros y degawd diwethaf.
Mae’r dirywiad parhaus hwn ar fioamrywiaeth wedi effeithio’n negyddol ar nifer o gyfundrefnau byd natur sy’n cyfrannu at lês pobl, megis peillio cnydau, rheoli ansawdd dŵr croyw, atal llifogydd, ffurfio pridd a rheoli hinsoddau.
Gall y sustemau rheoleiddio naturiol hyn fod o werth economaidd a diwylliannol mwy na’r bwyd a gynhyrchir ar dir amaethyddol, er enghraifft.
Sefydlwyd IPBES yn 2012 fel corff annibynnol, sy'n cynnwys 130 aelod-wladwriaethau o’r Cenhedloedd Unedig, ynghyd â nifer o sefydliadau anllywodraethol a grwpiau cymdeithas sifil.
Nôd IPBES yw darparu sylfaen gadarn ar sail tystiolaeth ar gyfer polisi gwell trwy wyddoniaeth, er mwyn gwella cadwraeth a defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth, llês tymor hir pobl a datblygiad cynaliadwy.
Dywedodd yr Athro Christie, Cyfarwyddwr Ymchwil Athrofa Busnes a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae perygl i economiau ac ansawdd byw pobl os byddwn yn methu diogelu bioamrywiaeth y byd”.
“Mae asesiad IPBES hefyd yn archwilio sut gallai’r dyfodol ddatblygu gan ddefnyddio senarios a modelau. Mae'r modelau yn dangos bod parhau i weithredu yn ôl ein harfer (senario Busnes Fel Arfer), er enghraifft, drwy fanteisio ar adnoddau naturiol a llygru ein hamgylchedd, yn golygu ein bod yn debygol o fethu cyflawni llawer o’n targedau datblygu cynaliadwy erbyn 2030 a thu hwnt. Golyga hyn oblygiadau difrifol i’n bywoliaeth, ein economïau a’n hansawdd bywyd ni a chenedlaethau i ddod.”
Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn pwysleisio bod camau gallwn gymryd fel unigolion i warchod natur a’i fanteision.
Dywedodd yr Athro Christie: “Mae angen i ni ysgafnhau’r pwysau sydd ar fioamrywiaeth drwy, er enghraifft, fwyta deiet cytbwys, llai o gig a lleihau gwastraff bwyd. Mae angen inni gwtogi’r defnydd o danwydd ffosil gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gerbydau trydan a sicrhau bod ein cartrefi wedi'u hinswleiddio'n dda. Gallwn hefyd greu ardaloedd 'gwyllt' yn ein gerddi a fydd yn darparu bwyd i bryfed ac adar.”
Gobaith IPBES yw gwneud i fioamrywiaeth yr hyn a wnaeth y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) i newid hinsawdd. Mae'n darparu asesiadau gwyddonol gwrthyrchol i lunwyr polisi am yr hyn sy’n wybyddus am gyflwr gwybodaeth am faterion bioamrywiaeth y blaned, ecosystemau a'r manteision maent yn eu ddarparu i bobl.
Er nad yw adroddiad IPBES yn darparu argymhellion penodol ar gyfer polisi'r DU, gellir defnyddio canfyddiadau'r adroddiad i helpu i lunio nifer o bolisïau ôl-Brexit.
Ychwanegodd yr Athro Christie: “Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth gref y dylai cymorthdalidau amaethyddol y DU yn y dyfodol ganolbwyntio ar gynorthwyo ffermwyr i reoli bioamrywiaeth ar eu tir i wella'r manteision i bobl, gan gynnwys gwella ansawdd dŵr, rheoli'r perygl o lifogydd a storio carbon.”
Awgryma yr Athro Christie ymhellach: "Mae'r dystiolaeth yn adroddiad yr IPBES yn cyd-fynd ag amcanion ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)’, sy'n anelu at wella llês cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru. Fel y cyfryw, mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i fod yn arweinydd byd-eang wrth ddefnyddio ei hadnoddau naturiol i hyrwyddo datblygiad economaidd a gwella ansawdd bywyd pobl.”
Lansiwyd adroddiad IPBES dydd Gwener, 23 Mawrth 2018 mewn digwyddiad yn Medellin, Colombia, lle cafodd gymeradwyaeth 130 o wleydd.
Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn gymorth i wledydd wneud penderfyniadau goleuedig ar sut i reoli adnoddau naturiol gwerthfawr er mwyn datblygu eu heconomiau a gwella ansawdd bywyd bobl.