Beth sy'n llechu mewn ‘fatberg’?
Yr Athro Jo Hamilton (ail o’r chwith) yn trafod tynnu DNA o fynydd braster yng ngharthffosydd Blackfriars yng nghanol Llundain yn ystod ffilmio ‘Fatberg Autopsy’.
23 Ebrill 2018
Bydd arbenigwyr ym maes parasitoleg o Brifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn rhaglen Channel 4 ‘Fatberg Autopsy: Secrets of the Sewers’, a fydd yn cael ei darlledu am 9 yr hwyr nos Fawrth 24 Ebrill 2018.
Cafodd Yr Athro Jo Hamilton a Dr Justin Pachebat o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) eu comisiynu gan Uned Wyddoniaeth y BBC i wneud dadansoddiad molecylaidd o fynydd braster – fatberg - i chwilio am barasitiaid a bacteria.
Cymysgedd o olew a saim sy'n cael eu tywallt lawr y draen yw mynydd braster, a hynny wedi'u cyfuno â charthion dynol ac eitemau glanweithdra personol nad ydyn nhw'n chwalu. Maen nhw'n rhwystro'r llif mewn systemau carthffosiaeth a bu tipyn o sôn amdanynt ers rhai misoedd.
Meddai Justin Pachebat: "Daethpwyd â thri llond bwced o dalpiau o fynydd braster o ddraen islaw ardal y South Bank yn Llundain ato ni yma yn Aberystwyth ar gyfer y dadansoddi cychwynnol. Roedd y prosiect yn un tu hwnt o ddiddorol ac fe sylweddolon ni'n fuan fod yna sawl 'haen' fiolegol i ni weithio arnyn nhw.
“Daethom o hyd i Campylobacter, E. coli a Listeria - rhywogaethau sy'n achosi gwenwyn bwyd yn aml mewn pobl - a rhai mathau o facteria a all wrthsefyll gwrthfiotigau.
“Yn ogystal â hyn, roedd yno nifer o 'eitemau' personol yn y braster, gan gynnwys 'cotton buds' a chondom menyw. Wrth gwrs, a ninnau'n wyddonwyr chwilfrydig, fe dynnon ni rhain allan, a chwilio am dwf bacteria a dod o hyd i sawl nythfa ddiddorol”
Dywedodd Jo Hamilton: "Er syndod i ni, wrth ddadansoddi’r braster fe ddaethom o hyd i rai wyau parasitiaid a allai fod yn un o ddwy rywogaeth o bryfaid genwair, Alaria alata neu Fasciola hepatica.
“Mae'r rhain yn ddiddorol oherwydd eu bod yn gallu heintio anifeiliaid a phobl, er yn ein hachos ni roeddent bron yn sicr o fod wedi deillio o haint mewn anifail. Hefyd, daethpwyd o hyd i lyngyr nematod a oedd yn debygol o fod yn amharasitig.”
Bu tîm IBERS ar y cyd â gwyddonwyr o brifysgolion eraill yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar safle gwaith carthffosiaeth yn Stratford yng nghanol Llundain.
Ym mis Medi 2017, daeth gweithwyr yng ngharthffosydd Whitechapel yn Llundain o hyd i fynydd braster mawr iawn, a'i fedyddio y 'Bwystfil'.
Roedd y Bwystfil yn pwyso 130 tunnell, ac yn 820 troedfedd o hyd, bron mor hir â Phont Llundain. Mae rhan ohono'n cael ei arddangos i'r cyhoedd yn Amgueddfa Llundain.