Cantata Memoria Aberfan yn Aberystwyth

10 Ebrill 2018

Cantata Memoria: Er mwyn y plant 
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Nos Sadwrn 21 Ebrill, 8yh

Bydd Cantata Memoria: Er mwyn y plant gan Syr Karl Jenkins, a gyfansoddwyd i goffáu 50 mlynedd ers trasiedi Aberfan yn 2016, yn cael ei berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Sadwrn 21 Ebrill 2018, ar ôl cael ei ohirio ar 3 Mawrth oherwydd yr eira.

Bydd Cantorion y Brifysgol sydd yn 90 o ran nifer, dau o brif unawdwyr Cymru, Fflur Wyn a Paul Carey Jones, yn rhannu’r llwyfan â chefnogaeth gerddorfaol broffesiynol Sinfonia Cambrensis.

Caiff rhan ganolog ei chwarae gan gantorion ifainc o ysgolion lleol, gan gynnwys disgyblion Penglais sydd yn aelodau o 'Sgarmangels' Elinor Powell a disgyblion iau o Sant Padarn.

Mae'r cyfansoddiad yn coffáu digwyddiadau trasig 1966 pan lithrodd tip glo dros ysgol gynradd Pantglas ym mhentref Aberfan, ynghyd â rhai tai cyfagos, gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion.

Hanner canrif yn ddiweddarach, comisiynodd S4C y cyfansoddwr Syr Karl Jenkins a’r bardd a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Mererid Hopwood i greu'r gwaith corawl coffa hwn.

Disgrifiodd Syr Karl Jenkins y gwaith o gyfansoddi’r gwaith hwn fel ei brofiad mwyaf emosiynol fel cyfansoddwr: “Pan glywir y gair Aberfan, does dim angen esbonio mwy; mae’r effaith dragwyddol wedi’i ymgorffori yn yr enw. Yr hyn sy’n cyseinio, wrth gwrs, yw’r ffaith mai plant oedd mwyafrif y dioddefwyr. Roedd ymdrin â phwnc sy’n rhan mor ddwfn o enaid y Cymry yn brofiad dirdynnol ond eto’n ddyrchafol ar yr un pryd.”

Perfformiwyd Cantata Memoria: Er mwyn y plant am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd yn Hydref 2016.

Deunaw mis yn ddiweddarach, llwyfannir un o'r perfformiadau cyntaf o Cantata Memoria yng Nghymru ers premier y BBC, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Sadwrn 21 Ebrill.

Dr David Russell Hulme, Cyfarwyddwr Cerdd ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd yn arwain y perfformiad: “Mae hwn yn waith o bwys – un cymhleth ac anodd. Fe gafodd effaith fawr yn y gyngerdd yng Nghaerdydd ac rwyf yn siŵr y caiff effaith debyg yma.”

Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau drwy ffonio 01970 623232 neu arlein.

 

AU16118