Rhewlifegwyr o Aberystwyth am ddychwelyd i dyllu drwy rewlif uchaf y byd

Katie Miles a’r Athro Bryn Hubbard, aelodau Prifysgol Aberystwyth o brosiect EverDrill, yn chwifio baner Aber ar safle rhif tri y tyllu ar rewlif Khumbu wrth droed Everest yn ystod taith 2017.

Katie Miles a’r Athro Bryn Hubbard, aelodau Prifysgol Aberystwyth o brosiect EverDrill, yn chwifio baner Aber ar safle rhif tri y tyllu ar rewlif Khumbu wrth droed Everest yn ystod taith 2017.

12 Ebrill 2018

Mae rhewlifegwyr o Brifysgol Aberystwyth yn dychwelyd i fynyddoedd yr Himalaya, flwyddyn wedi taith lwyddiannus i dyllu drwy rewlif uchaf y byd.

Bydd yr Athro Bryn Hubbard, sydd wedi ennill Medal y Pegynau a’r ymchwilydd ôl-raddedig Katie Miles o Ganolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth yn teithio i rewlif Khumbu yn nhroedfryniau Mynydd Everest.

Byddant yn dechrau ar eu taith y penwythnos hwn, 14/15 Ebrill 2018.

Ym mis Ebrill 2017, tra’n gweithio ar uchder o dros 5000m, roedd Hubbard a Miles yn aelodau o’r tîm llwyddiannus cyntaf i dyllu drwy’r rhewlif 17 cilomedr o hyd sy’n llifo o uchder o 7600 metr i tua 4900 metr ar ei bwynt isaf.

Ar y pwynt uchaf, ger gwersyll ‘base camp’ Everest, treuliodd y tîm dri diwrnod yn tyllu 150 metr i mewn i’r rhewlif cyn nodi’r strwythur mewnol gan ddefnyddio camera 360° a ddatblygwyd gan y partneriaid ar y prosiect Robertson Geologging o Ddeganwy, gogledd Cymru.

Eleni bydd y tîm yn gweithio 300 metr yn uwch i fyny’r rhewlif wrth iddynt astudio strwythur mewnol y rhewlif, mesur ei dymheredd, pa mor gyflym y mae’n llifo a sut y mae dŵr yn draenio drwyddo.

Bydd y data a gesglir yn cael ei gyfuno â lluniau lloeren i ddeall sut mae’r rhewlif yn symud ac yn newid dros amser, a sut y gallai ymateb i’r newidiad hinsawdd a ragwelir.

Dywedodd yr Athro Hubbard: “Bydd dychwelyd i’r safleoedd y tyllwyd y llynedd yn ein galluogi i gasglu’r cofnodwyr data sydd wedi bod yn crynhoi gwybodaeth dros y 12 mis diwethaf, ac am y tro cyntaf bydd modd i ni weld sut y gall y rhewlif ymateb i newidiadau yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Rydym hefyd am gymryd mesuriadau newydd, ychydig yn uwch na gwersyll ‘base camp’ Everest, a chasglu data am nodweddion yr iâ sy’n disgyn o  ardal sy’n cael ei hadnabod fel ‘Western Cwm’.”

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect ymchwil EverDrill sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Leeds.  

Bydd arweinydd y prosiect, Dr Duncan Quincey o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Leeds a chyn aelod o staff Prifysgol Aberystwyth, yn goruchwylio’r gwaith maes tra bod y tyllu’n cael ei arwain gan yr Athro Hubbard.

Ariannwyd y gwaith gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), ac mae’r Athro Hubbard a Dr Ann Rowan o Brifysgol Sheffield, a astudiodd Rhewlifeg yn Aberystwyth, yn gyd-ymchwilwyr ar y prosiect.

Bydd y daith eleni hefyd yn gyfle i brofi offer gwresogi a phwysau dŵr newydd sydd wedi’i ddatblygu gan y gwneuthurwr peirianau golchi dan bwysedd masnachol Kärcher a ddylai alluogi’r tîm i dyllu i mewn i’r iâ ar uchder o hyd at 6000 metr.

Hyd yma, mae Hubbard a’i gyd-weithwyr wedi bod yn defnyddio unedau golchi ceir masnachol i gynhyrchu’r dŵr poeth sydd ei hangen i dyllu i mewn i’r iâ.

Mewn cydweithrediad gyda Kärcher, mae’r offer newydd yn haws i’w gludo a dylai alluogi’r tîm i astudio’r cofnod hanesyddol o eira a newid amgylcheddol yn yr Himalaya.

Dywedodd Duncan Quincey: “Mae rhewlifoedd yn llifo’n barhaus ac yn amrywiol, gan gymysgu’r eira a ffurfiodd haenau tymhorol yn y lle cyntaf. Golyga hyn nad ydynt yn anaddas fel cofnod o newid hinsawdd y gorffennol. Fodd bynnag, ychydig ymhellach i fyny Khumbu, ar tua 6000 metr, mae cromennu a cholau lle mae’r haenau yma’n gyflawn, a lle mae’n bosibl casglu data am yr eira a’r iâ sydd wedi ffurfio’n flynyddol dros gyfnod o 200 i 300 mlynedd. Mae hwn yn gyfnod sy’n ymestyn o gyn y chwyldro diwydiannol hyd at heddiw, ac o ganlyniad mae’n arwyddocaol iawn ar gyfer ymchwil newid hinsawdd.”

Yn ystod y daith bydd Katie Miles, ymchwilydd ôlraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn defnyddio lliw llachar i astudio sut mae dŵr yn llifo i mewn a thrwy’r rhewlif.

Dywedodd Katie Miles: “Mae’r dystiolaeth sydd gennym yn awgrymu bod mwy o ddŵr yn llifo i mewn i’r rhewlif wrth i’r iâ doddi, nag sydd yn dod allan o’r ymylon. Bydd arbrofion olrhain lliw yn ein helpu i ddeall yn well i ble mae’r dŵr coll yn mynd, ac yn ein helpu i wella modelau cyfrifiadurol sy’n cael eu defnyddio i ragweld newidiadau i’r rhewlif yn y dyfodol, ac o bosib y dŵr sydd ar gael i’r cymunedau is law.” 

Her Dechnegol
Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd yr Athro Hubbard a’i gydweithwyr yn gweithio ar uchder o dros 5000m, a bydd yn rhaid iddynt ymdopi â nifer o heriau corfforol a thechnegol.

Er mwyn hwyluso’r tyllu, bydd angen codi offer sy’n pwyso tua 1500 cilogram i ben y rhewlif.

Bydd hanner yr offer yn cael ei gludo drwy’r awyr gan hofrennydd, a’r hanner arall yn cael ei gario i fyny gan gariwyr a logwyd yn lleol, iaciad a’r tîm ymchwil.

Mae’r Athro Hubbard a’i gydweithwyr yn defnyddio hofrenyddion yn gyson i gludo offer i ardaloedd anghysbell ac anodd cyrraedd atynt yn ystod astudiaethau maes. 

Ar lefel y môr, byddai’r hofrenyddion a ddefnyddir gan y tîm yn gallu codi dros dunnell ar y tro fel rheol. Am resymau uchder, disgwylir y bydd y prif lwyth ar gyfer y daith hon yn llai na 200 cilogram fesul trip.

Bydd y tyllu’n cael ei gyflawni gan uned golchi ceir wedi’i haddasu’n arbennig, sy’n cynhyrchu chwistrelliad o ddŵr poeth ar bwysedd o hyd at 120 bar, sy’n ddigon i dorri trwy darmacadam garw.

Bydd y dril yn cael ei bweru gan dri generadur Honda, a disgwylir y bydd y pŵer a gynhyrchir ganddynt hyd at 50% yn llai oherwydd y diffyg ocsigen ar yr uchder hwnnw.

Bydd dŵr o’r llynnoedd ar arwyneb y rhewlif yn cael ei hidlo a’i gynhesu i ~40oC at ddibenion tyllu.

Tra bo’u hoffer yn cael eu cludo drwy’r awyr, bydd Bryn a’i gydweithwyr yn cerdded am 8 diwrnod o faes awyr Lukla wrth iddynt gynefino â’r uchelderau.

Yr Athro Bryn Hubbard
Dyfarnwyd Medal y Pegynau i’r Athro Bryn Hubbard ym mis Ionawr 2016 i gydnabod ei waith fel “ysgolhaig Pegynol mewn rhewlifeg, daeareg rewlifol a strwythur a mudiant masau iâ”.

Astudiaeth Himalaya 2017 fydd ei 30ain flwyddyn olynol i gynnwys cyfnod o waith maes rhewlifegol.

Ym mis Mehefin, mis ar ôl dychwelyd o rewlif Khumbu, bydd yr Athro Hubbard yn teithio i’r Lasynys i astudio’r Rhewlif Store.

Gan ddefnyddio unedau golchi ceir sydd wedi’i haddasu’n arbennig, bydd yr Athro Hubbard a’i gyd-weithwyr yn tyllu hyd at 1200 metr i mewn i’r rhewlif wrth iddynt astudio’r berthynas rhwng y rhewlif a’r rhew sydd oddi tani.

Ers 1988 mae’r Athro Hubbard wedi gweithio yn Antarctica ar chwe achlysur, astudio mudiant rhewlifoedd ar uchelderau mawr yn yr Andes ym Mheriw ar dri achlysur, gweithio yn y Lasynys ar bum achlysur ac ar Svalbard wyth o weithiau, yn ogystal ag Arctig Canada a Norwy.