Cyn creu eich cyflwyniad i dudalen, dylech wneud y paratoadau canlynol:
- Dewiswch y ddelwedd ar gyfer eich cyflwyniad i dudalen;
- Cadarnhewch y testun sydd ei angen ar gyfer eich cyflwyniad i dudalen;
- Golygwch y ddelwedd fel ei bod yn 1140px o led a 585px o uchder;
- Dewiswch y delweddau ar gyfer eich dewislen eiconau;
- Cadarnhewch y testun dolen sydd ei angen ar gyfer eich eiconau;
- Cadarnhewch y dolenni sydd eu hangen ar gyfer eich eiconau;
- Gwnewch yn siŵr bod y templedau cynnwys canlynol ar gael yn yr adran lle’r hoffech osod eich cyflwyniad i dudalen:
- Page Intro with icons;
- Icon.