7fed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu
Y Grŵp E-ddysgu sy'n gyfrifol am drefnu Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth. Mae'r gynhadledd yn dod â'r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o'r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i'r dulliau cyffrous ac arloesol sy'n cael eu defnyddio wrth ddysgu.
Mae'r gynhadledd yn cynnwys gweithdai, arddangosiadau, cyflwyniadau a siaradwyr gwadd.
Cynhelir 7fed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu rhwng 8 a 10 Gorffennaf 2019 ar Gampws Penglais.
Thema’r gynhadledd eleni yw, Dysgu o Ragoriaeth: Arloesi, Cydweithio, Cymryd Rhan! ac rydym yn bwriadu adlewyrchu ymroddiad staff PA i ehangu profiad dysgu’r Myfyrwyr. Pedwar prif agwedd y gynhadledd eleni yw:
- Sut mae myfyrwyr yn dysgu
- Cynllunio dysgu effeithiol ac arloesol
- Addysgu drwy ymchwil i ehangu dysgu
- Profiadau dysgu cydweithredol a chyfranogol
Gwelwch y rhaglen y Gynhadledd yma