11eg Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu sy'n gyfrifol am drefnu Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth. Mae'r gynhadledd yn dod â'r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o'r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i'r dulliau cyffrous ac arloesol sy'n cael eu defnyddio wrth ddysgu.
Mae'r gynhadledd yn cynnwys gweithdai, arddangosiadau, cyflwyniadau a siaradwyr gwadd.
Roedd hi’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 10fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhaliwyd y gynhadledd ddydd Mawrth 4 Gorffennaf hyd ddydd Iau 6 Gorffennaf 2023.
Eleni roedd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dysgu sy’n Trawsnewid: Creu Cyfleoedd i Ddysgu ac fe’i cynhaliwyd rhwng dydd Mawrth 4 a dydd Iau 6 Gorffennaf 2023.
Yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.
Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:
- Addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial
- Paratoi ar gyfer Blackboard Ultra
- Dylunio cyffredinol ar gyfer dysgu
- Mentora ar gyfer llwyddiant a hunanreoleiddio
- Cyd-destunau dysgu gweithredol a dilys