10fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu
Cynhaliwyd y Ddegfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol rhwng 12 a 14 Medi 2022.
Thema'r gynhadledd oedd Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth: Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth. Nod y gynhadledd oedd myfyrio ar yr ymrwymiad sydd gan staff PA i wella profiadau dysgu’r myfyrwyr a chydnabod degawd o gynadleddau.