Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu
Mae Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu sy'n gyfrifol am drefnu Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth. Mae'r gynhadledd yn dod â'r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o'r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i'r dulliau cyffrous ac arloesol sy'n cael eu defnyddio wrth ddysgu.
Mae'r gynhadledd yn cynnwys gweithdai, arddangosiadau, cyflwyniadau a siaradwyr gwadd.
Y 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol
Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 13eg Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 8 Gorffennaf hyd ddydd Iau 10 Gorffennaf 2025.
Galw am Gynigion: Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2025
Mae'r alwad am gynigion bellach ar agor ar gyfer y 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysg flynyddol.
Dyma’r thema a’r elfennau ar gyfer y gynhadledd eleni:
Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr: Addasu, Ymroi, a Ffynnu
Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:
-
Dylunio asesiadau y gellir eu haddasu
-
Ymroddiad myfyrwyr a dysgu annibynnol
-
Meithrin cymuned
-
Technolegau i wella dysgu
-
Dysgu ar-lein
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu.
Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.
Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod. Gofynnwn i chi gyflwyno eich cynnig erbyn 8 Ebrill 2025.
I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein blog.