Archif Digwyddiad Rhannu Arfer Dda Rhagoriaeth - Academaidd 2024

Gwnaeth Prifysgol Aberystwyth gynnal Digwyddiad Rhannu Arfer Da - Rhagoriaeth Academaidd am ddau ddiwrnod ar yr 2ail (wyneb yn wyneb) a’r 3ydd (ar-lein) o Orffennaf 2024. Cafodd y digwyddiad ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Roedd y digwyddiad hwn yn bosibl oherwydd arian y Prosiect Grantiau Bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

Nod y digwyddiad deuddydd oedd cyflwyno papurau o dan y thema Rhagoriaeth Addysgu – er enghraifft:

  • Dysgu ac Addysgu
  • Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cymorth i Fyfyrwyr
  • Goruchwylio
  • Tiwtora Personol

Rhaglen

02/07/24 – Wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Aberystwyth

9.30-10.00

 

Cofrestri

10.00-10.15

Croeso

Yr Athro Anwen Jones, Prifysgol Aberystwyth a Dr. Aled Eurig, Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

 

10.15-10.55

Sesiwn Bore – Panel Un

 

‘Newid model addysgu myfyrwyr astudiaethau gwyddor da byw’

Dr. Manod Williams,  Prifysgol Aberystwyth

 

 

‘Ble gellir dod o hyd i greadigrwydd yn Nghwricwlwm i Gymru? Dadansoddiad o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru gan ystyried y cyfleoedd a'r heriau a gynigir i athrawon ar lawr y dosbarth’

Miss Megan Beth Sass, Myfyriwr PhD Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

 

 

 

10.55-11.20

Amser Paned

11.20-12.15

Sesiwn Bore - Panel Dau

‘Dewch i chwarae! Dysgu gweithredol: cyfleodd am ddysgu ymarferol fel modd i gysylltu damcaniaeth gydag ymarfer addysg blynyddoedd cynnar’

Ms. Glenda Tinney, Ms. Alison Rees Edwards a Ms. Natasha Jones, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 

‘Ymchwilio i mewn i brofiadau myfyrwyr BA Troseddeg a’r Gyfraith yn y Brifysgol Agored. Gwersi ar gyfer dylunio cwricwlwm?’

Mr Martin Samuel Jones, Y Brifysgol Agored yng Nghymru

 

12.15-12.30

 

‘Rhagoriaeth a’r AUYmlaen’

Ms. Barbara E Thomas (PFHEA, FRSA), Ymgynghorydd Addysg Uwch

 

12.30-14.00

Cinio - Rhwydweithio a Phoster

 

‘Cyflwyno'n Ddwyieithog – Offeryn Cefnogol Syml - Sylfaenol Gwell Gorau’

Ms. Helen Griffiths, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

 

14.00-15.30

Sesiwn Prynhawn -

 

‘‘Cefnogi’, ‘Cysylltu’ ac yn ‘Arfogi’ ein myfyrwyr ar gyfer y dyfodol’

Dr. Siân Lloyd-Williams, Mr. Prysor Davies a Dr. Rhodri Aled Evans, Prifysgol Aberystwyth

 

‘Gwella Dysgu ac Addysgu: Ateb y galw’

Dr. Leila Griffiths a Bethan Wyn Jones, Prifysgol Bangor

 

‘Mae’n bosib o bell: Llwybr i lwyddiant’

Dr. Nia Cole Jones, Ms. Megan Jones a Ms. Carys Jennings, Y Brifysgol Agored yng Nghymru

 

15.30-16.00

Amser paned

Paneli Trafod

 

Mi fyddwn yn rhannu’r  sesiwn hon yn dri phanel cydamserol i drafod rhannu arfer da yn y pynciau canlynol:

 

16.00-17.00

 

Cefnogi myfyrwyr

Goruchwyliaeth

Tiwtora personol

17.00-17.15

Sylwadau cloi

 

03/07/24 – Ar-Lein (Microsoft Teams)

9.45-10.00

Agor

10.00-10.45

Sesiwn Cyntaf –

 

‘Trosoledd Hapchwarae ar gyfer Ymgysylltiad a Chyrhaeddiad Gwell mewn Addysg Gwyddora Feddygol Israddedig’

Dr. Dylan Wyn Jones, Prifysgol Bangor

 

‘Cymdeithaseg mewn Cartŵn: Pecyn Adnoddau Aml-gyfrwng Cymdeithaseg’

Dr. Cynog Prys a Dr. Rhian Hodges, Prifysgol Bangor

 

10.45-11.00

Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

11.00-11.15

Amser paned

11.15-12.30

Ail Sesiwn –

 

‘Ymgorffori cyflogadwyedd mewn modiwl traethawd hir Ysgol Fusnes Aberystwyth’

Mr. Jonathan Fry a Dr. Sioned Llywelyn, Prifysgol Aberystwyth

 

‘Datblygu Modiwl Traws-ddisgyblaeth Cyfrwng Cymraeg i Fyfyrwyr Busnes’

Yr Athro Eleri Rosier, Dr Robert Bowen, Dr Leon Gooberman, Dr Kevin Evans a'r Athro Kevin Holland, Prifysgol Caerdydd.

 

‘Adfyfyrio er mwyn creu tystlioaeth o’ch llwyddiant a gwella eich dysgu!’

Dr. Myfanwy Davies, Prifysgol Bangor

 

12.30-13.30

Cinio

13.30-14.00

Posteri

‘Gwerthusiad Ymchwil Weithredu o Gynllun Datblygu Staff 'Ein Taith Iaith'

Mrs Marion Evans, Coleg Pen-y-bont

 

‘Lleihau dibyniaeth Google Translate trwy arbrofion.’

Ms Katie R. Walsh, Coleg Penybont

 

14.00-14.15

Gorffen