Digwyddiad Rhannu Arfer Dda - Rhagoriaeth Academaidd
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Digwyddiad Rhannu Arfer Da - Rhagoriaeth Academaidd am ddau ddiwrnod ar yr 2ail (wyneb yn wyneb) a’r 3ydd (ar-lein) Gorffennaf 2024. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn bosibl oherwydd arian y Prosiect Grantiau Bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Nod y digwyddiad deuddydd yw cyflwyno papurau o dan y thema Rhagoriaeth Addysgu – er enghraifft:
- Dysgu ac Addysgu
- Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cymorth i Fyfyrwyr
- Goruchwylio
- Tiwtora Personol
Bydd y papurau academaidd yn gyfle i staff ar draws Cymru gyflwyno eu hymchwil, o dan y thema ymarfer academaidd - trwy bapurau, posteri, paneli ac ati. Croesewir cyflwyniadau yn y digwyddiad gan unrhyw un sy'n addysgu o staff i fyfyrwyr PhD.
Bydd modd cofrestru tan ddydd Mercher 26 Mehefin.
Cliciwch yma i Gofrestru
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a bydd cinio yn cael ei ddarparu ar y diwrnod wyneb yn wyneb.