Cipio Darlithoedd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio meddalwedd cipio darlithoedd o'r enw Panopto i recordio darlithoedd. Gall myfyrwyr weld y recordiadau hyn drwy Blackboard. Mae Panopto ar gael yn yr holl ystafelloedd dysgu ar yr amserlen ganolog. Gallwch lawrlwytho Panopto ar beiriannau unigol. Gweler y cwestiwn cyffredin yma.
Yn ogystal â recordio darlithoedd, gellir defnyddio Panopto hefyd ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau eraill, megis recordio asesiad myfyrwyr, creu vignette, fideos adolygu neu i grynhoi syniadau cymhleth. Gellir defnyddio Panopto hefyd i recordio gweithgareddau Prifysgol eraill, megis cyfarfodydd – rhowch wybod i ni os hoffech i ni greu ffolder Panopto ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â dysgu.
Yn unol â Pholisi Cipio Darlithoedd Panopto mae recordiadau sydd heb eu gwylio mewn 5 mlynedd yn cael eu dileu yn fisol. Gweler pwynt 8.1 o'r Polisi Cipio Darlithoedd.
Mae recordiadau Panopto sydd ddim wedi cael eu gweld mewn 13 mis yn cael eu symud i'r Archif Panopto, lle gellir eu hadfer pe bai eu hangen. Gweler y canllaw Panopto hwn ar adfer cynnwys wedi'i archifo.
FAQs
Sut ydw i'n Adfer Cynnwys Panopto sydd wedii Archifo?
Sut mae ychwanegu capsiynau i recordiad Panopto?
Sut mae ychwanegu dolen at ffolder Panopto cwrs Blackboard?
Sut alla i copïo/rannu recordiad Panopto o un cwrs i cwrs arall yn Blackboard?
Sut mae symud recordiad Panopto o un ffolder modiwl Panopto i un arall?