Cofrestru Ymwelydd

Mae croeso i ymwelwyr aros yn eich llety os cedwir at yr amodau canlynol:

  • Rhaid cofrestru ymwelwyr cyn 4pm bob dydd os ydynt am aros, a rhaid i westeion penwythnos gael eu cofrestru cyn 3pm ar ddydd Gwener. 
  • Rhaid i ymwelydd dros nos fod yn hŷn na 18 oed.
  • Ni chaniateir i fwy nag 1 ymwelydd aros ar yr un pryd.
  • Dim ond am gyfnod o hyd at dair noson yn olynol y caniateir i ymwelydd aros, ac ni chaniateir iddo ddychwelyd o fewn cyfnod o saith niwrnod.
  • Rhaid i ymwelwyr aros yn eich ystafell, nid mewn unrhyw ardaloedd cymunedol.
  • Rhaid i’r holl ymwelwyr gael eu llofnodi i mewn er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Iechyd, Diogelwch a Thân. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r dudalen Byw yn un o’r Neuaddau ar y we.
  • Chi sy’n gyfrifol am eich gwestai a rhaid ichi beidio â’i adael heb arolygaeth. Os bydd yn torri’r Contract Meddiannaeth mewn unrhyw fodd, chi fydd yn gyfrifol am ei weithredoedd.
  • Dylech drafod y ffaith fod arnoch eisiau i ymwelydd ddod i aros gyda’ch cydletywyr yn eich fflat / tŷ, a hynny cyn i’r ymwelydd gyrraedd.

Os methwch gydymffurfio â’r uchod, gallem wrthod eich cais i gael ymwelydd i aros.

Os bydd eich ymwelydd angen lle i barcio yn ystod eu cyfnod yma, bydd angen iddynt fynd i weld staff Diogelwch y Safle ym Mhrif Dderbynfa’r Campws, Campws Penglais.

Gwneir yr holl ddata personol a gesglir, a gofnodir, a ddefnyddir ac a rennir gan Wasanaethau'r Campws yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Gwybodaeth Diogelu Data.

Mae’r holl ddata sydd yn cael ei chasglu, cofnodi, ddefnyddio a’i rhannu gan yr adran Gwasanaethau Campws, yn cael ei wneud gan ddilyn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a’r Ddeddf Diogelu Data 2018. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen gwe Gwybodaeth Diogelu Data.