Dyddiadau Archwiliadau Cymunedol ac Ystafelloedd Gwely

Cegin yn un o'r fflatiau yn Fferm Penglais

Er mwyn sicrhau eich diogelwch, a bod yr holl offer diogelwch tân yn gwbl weithredol, bydd Archwiliadau Diogelwch Tân a Chydymffurfiaeth yn cael eu cynnal Unwaith y Tymor ym mhob Ardal Cymunedol ac Ystafell Wely Preswyl

Beth?

Yn ystod yr archwiliad CYMUNEDOL byddwn yn .... 

  • cynnal gwiriad gweledol o'r diffoddwyr a blancedi tân
  • gwirio nad oes neb wedi ymyrryd ag unrhyw offer atal tân
  • gwirio nad oes unrhyw wrthrychau yn rhwystro mynediad a llwybrau dianc rhag tân
  • gwirio nad oes drysau tân yn cael eu cadw ar agor
  • gwirio cyflwr a diogelwch ffenestri
  • cofnodi unrhyw eitemau gwaharddedig  (fel y rhestrir yn Atodiad 4 o’r Llawlyfr Preswylwyr)
  • cofnodi unrhyw ddifrod a glendid cyffredinol eich mannau cymunedol

Yn ystod archwiliad YSTAFELL WELY byddwn yn 

  • edrych am unrhyw ddifrod a gwneud sylw o lendid cyffredinol eich ystafell
  • gwirio nad oes unrhyw lwyth anniben ar y llawr sy’n rwystr i lwybr dianc rhag tân
  • cofnodi unrhyw eitemau gwaharddedig a ganfyddir (fel y rhestrir yn Atodiad 4 y Llawlyfr Preswylwyr)
  • gwirio am ymyrraeth ar y synhwyrydd mwg
  • gwirio cyflwr a diogelwch eich ffenestr
  • gwirio nad yw'r drws wedi'i ddal ar agor

Os oes angen, byddwn yn trefnu archwiliad glanhau ychwanegol o'ch fflat / tŷ / stiwdio neu ystafell wely.

Pwy?

Bydd aelod o’r tîm preswylfeydd a fydd yn gwisgo gwisg lawn a cherdyn adnabod yn cynnal y gwiriadau diogelwch tân a chydymffurfiaeth yn eich ardaloedd cymunedol ac ystafelloedd gwely.

Pryd?

Bydd pob archwiliad yn cael ei gwblhau rhwng 9.30am a 4.30pm

Cliciwch ar y ddolen isod am ddyddiadau archwiliadau Cymunedol ac Ystafelloedd Gwely ar gyfer y tymor yma.

 

Archwiliadau Tymor 2