Parcio Beiciau'n Ddiogel

Mae’r Brifysgol yn eich annog i ddefnyddio beiciau fel ffordd o deithio, ac mae gennym nifer o lefydd diogel dan do i gadw beiciau. Mae’r rhain drws nesaf i Floc Cymunedol Cwrt Mawr, Penbryn, ac yn Fferm Penglais. Mae croeso i chi wneud cais am le, ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.

Mae beiciau wedi’u gwahardd o ystafelloedd gwely/astudio, ardaloedd cymunedol a holl lwybrau gadael adeilad gan gynnwys coridorau, grisiau a mynedfeydd, a hynny am resymau diogelwch tân a difrod. Bydd unrhyw feic sy’n cael ei ganfod mewn neuadd/llety yn cael ei symud gan staff a gall ei berchennog dderbyn rhybudd os yw’n rhwystro allanfa neu ddihangfa dân.

Sut i wneud cais

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais berthnasol isod a'i dychwelyd i'r Swyddfa Llety.

Ffurflen Gais Storio 2024-2025

Bydd angen gwneud trefniadau ar wahan i ddefnyddio'r storfeydd dros wyliau'r haf.

Cyfleusterau Golchi Beic

Mae yna cyfleusterau golchi beic defynddiol ar gael ar safle Fferm Penglais.

More belled a'ch bod chi wedi cofrestru fel defnyddiwr storfa beic diogel a'ch bod chi'n cadw eich beic(iau) naill yn Fferm Penglais, Cwrt Mawr, Roser, Trefloyne neu Pantycelyn, gallwch ddefnyddio'r cyfleusterau golchi beic yn rhad ac am ddim.

Mae'r peiriant yn gweithio ar docynnau, a gallwch casglu tocynnau o'r Swyddfa Llety yn Y Sgubor, Fferm Penglais rhwng Dydd Llun i Dydd Lau 8.30-17.00 a Dydd Gwener 8.30-16:00.

Mi fyddwn yn rhoi hyd at dau tocyn i chi ar y tro felly pan bod angen mwy o docynnau arnoch, galwch yn ol i'r Swyddfa Llety i gasglu mwy. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n dod a'ch Cerdyn Aber gyda chi fel ffurf o adnabyddiaeth pan yn casglu eich tocynnau os gwelwch yn dda.

Beiciau wedi'u Gadael

Bydd unrhyw feiciau a welir, ac y tybir eu bod wedi'u gadael yn cael eu tagio gyda rhybudd o bythefnos, ac yna'n cael eu symud pan fydd dyddiad y rhybudd wedi pasio. Caiff manylion y beiciau eu cofnodi a'u cadw gan y Tîm Diogelwch yn Nerbynfa'r Campws.

Beth sy'n digwydd i feiciau wedi'u gadael?

Trwy gynllun ailgylchu beiciau Halfords, caiff pob beic diangen ei roi i'r prosiect ‘Bikes to Africa’. Bydd y beiciau hyn wedyn yn cael eu hanfon i Affrica. Gall manteision bod yn berchen ar feic newid a gwella bywydau yn sylweddol. I ddysgu mwy am y prosiect hwn cliciwch ar y ddolen isod;- https://www.halfords.com/bikes/services-advice/re-cycle.html