Y Ffald

shot of Y Ffald from outside

Sbort a sbri yn y Ffald! 

Man cymdeithasol yw’r Ffald sydd ar agor i breswylwyr sy'n byw mewn unrhyw lety a reolir gan y brifysgol.  Mae wedi ei leoli ar lawr gwaelod Bloc 2, Fferm Penglais - dafliad carreg o'r Swyddfa Llety,.  Mae’n fan cymdeithasol gwych gyda chegin fach (i gael paned), teledu a bar sain, nifer o seddi cyfforddus, bwrdd mawr ar gyfer gemau neu waith grŵp, ac ystafell astudio/cymdeithasol cysylltiedig (gwych ar gyfer DnD!) 

Mae ar agor 24/7 a’r cyfan sydd angen i fynd i mewn yw eich CerdynAber

Hefyd, cadwch lygad am ein Cyfnewidfa Lyfrau Bywyd Pres. Cewch gymryd llyfr neu adael llyfr, a mynd ar antur lenyddol

Adnoddau a Chyfleusterau:

  • Cegin fach
  • Bwrdd mawr
  • Seddi meddal
  • Ystafell Gysylltiedig
  • Teledu a bar sain
  • Dewis da o lyfrau (Cyfnewidfa Lyfrau)
  • Socedi trydan
  • Gemau amrywiol
  • Tŷ bach

 

Y cyswllt ar gyfer y dudalen hon:

Llety’r Brifysgol, Y Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais, Aberystwyth, SY23 3FH
Ffôn: Llinell Gymorth Bywyd Campws: 01970 622900 Ebost: llety@aber.ac.uk