Y Ffald
Sbort a sbri yn y Ffald!
Man cymdeithasol yw’r Ffald sydd ar agor i breswylwyr sy'n byw mewn unrhyw lety a reolir gan y brifysgol. Mae wedi ei leoli ar lawr gwaelod Bloc 2, Fferm Penglais - dafliad carreg o'r Swyddfa Llety,. Mae’n fan cymdeithasol gwych gyda chegin fach (i gael paned), teledu a bar sain, nifer o seddi cyfforddus, bwrdd mawr ar gyfer gemau neu waith grŵp, ac ystafell astudio/cymdeithasol cysylltiedig (gwych ar gyfer DnD!)
Mae ar agor 24/7 a’r cyfan sydd angen i fynd i mewn yw eich CerdynAber
Hefyd, cadwch lygad am ein Cyfnewidfa Lyfrau Bywyd Pres. Cewch gymryd llyfr neu adael llyfr, a mynd ar antur lenyddol
Adnoddau a Chyfleusterau:
- Cegin fach
- Bwrdd mawr
- Seddi meddal
- Ystafell Gysylltiedig
- Teledu a bar sain
- Dewis da o lyfrau (Cyfnewidfa Lyfrau)
- Socedi trydan
- Gemau amrywiol
- Tŷ bach
Y cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Llety’r Brifysgol, Y Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais, Aberystwyth, SY23 3FH
Ffôn: Llinell Gymorth Bywyd Campws: 01970 622900 Ebost: llety@aber.ac.uk