Mannau Cymdeithasol, Ardaloedd Astudio ac Ystafelloedd y Gellir eu Harchebu
Mae'r Brifysgol yn darparu ardaloedd yn rhad ac am ddim i chi gael cymdeithasu, gweithio ar brosiectau grŵp, neu weithio'n unigol.
Ar draws y Llety a reolir gan y Brifysgol, mae gennym nifer o fannau cymdeithasol, ardaloedd astudio, ac ystafelloedd y gellir eu harchebu i chi gael eu defnyddio a'u mwynhau tra’n fyfyriwr gyda ni. Mae mannau cymdeithasol ac astudio ar gael 24/7 ym mhob safle. Mae’r ystafelloedd y gellir eu harchebu ond i’w cael ar lawr gwaelod Pantycelyn rhwng 9yb a 10yh yn ystod y tymor. Mae'r holl fannau cymdeithasol a’r ystafelloedd y gellir eu harchebu ar gael i bob preswylydd drwy ddefnyddio eich cerdyn Aber.
Rydym wedi darparu'r ardaloedd yma i chi gael:
- gweithio mewn grwpiau
- bod yn greadigol
- ymarfer a pherfformio
- cynnal cyfarfodydd cymdeithasau
- ymlacio
- eistedd, astudio a myfyrio
- gwneud ffrindiau newydd.
Gofynnwn i chi ddefnyddio’r mannau hyn yn gall a gofalu amdanynt, fel y byddant bob amser ar gael i chi - ein preswylwyr eu defnyddio.
Porwch drwy’r tudalennau isod i gael gwybod mwy...
Y cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Llety’r Brifysgol, Y Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais, Aberystwyth, SY23 3FH
Ffôn: Llinell Gymorth Bywyd Campws: 01970 622900 Ebost: llety@aber.ac.uk