Tywydd Gwael
O bryd i’w gilydd, mae'r tywydd yma yn Aberystwyth yn gallu bod yn wael, gwyntoedd cryfion, llifogydd, eira neu rew. Gallwch glywed rhybuddion tywydd ar wefan y Swyddfa Dywydd neu ar gyfryngau eraill, er enghraifft Tywydd y BBC.
Mewn cyfnod o dywydd arbennig o wael, bydd y Brifysgol yn cadw golwg ar yr amodau ac yn cyfathrebu â chi trwy e-bost os bydd angen rhoi unrhyw gyngor neu ddiweddariadau ichi, felly cofiwch edrych ar eich negeseuon yn rheolaidd.
Yn ystod cyfnodau o dywydd gwael gall yr amodau newid yn gyflym ac fe gynghorir pawb i fod yn ymwybodol o'u diogelwch eu hunain, i ddefnyddio synnwyr cyffredin yn yr amgylchiadau, a pheidio â'u peryglu eu hunain yn ddiangen.
Yn ystod y cyfnodau hyn, byddem yn argymell ichi aros dan do cymaint ag y gallwch tan i'r tywydd ostegu, ac os oes rhaid mynd allan, i gymryd gofal mawr, cadw'n ddigon pell o'r môr a bod yn ymwybodol wrth gerdded heibio i goed neu fannau lle gallai rwbel neu bethau tebyg syrthio.
Os oes rhaid ichi fynd allan a hithau wedi bwrw eira neu wedi rhewi, byddwch yn hynod ofalus a gwisgwch esgidiau a dillad addas.
Mewn stormydd, a phan fydd y gwynt yn gryf a'r llanw'n uchel ar lan y môr, mae'n bwysig i chi fod yn wyliadwrus a chymryd gofal wrth fynd i mewn ac allan o'ch llety.
Mae llanw uchel a thywydd gwael yn cynyddu perygl felly cadwch at y canlynol:
Lle bo'n bosibl, defnyddiwch y drysau cefn i fynd i mewn ac allan o adeiladau;
- Peidiwch â mynd ar y traethau, y prom, llwybrau a ffyrdd yr arfordir;
- Os yw eich ystafell yn wynebu'r môr, caewch y llenni ac osgoi mynd yn agos i'r ffenestri os yw'r llanw'n uchel;
- Gallwch ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru - 0345 988 1188 - i gael gwybodaeth ynglŷn ag adegau llanw uchel a llifogydd, neu ewch i naturalresourceswales.gov.uk
Os byddwch angen ein cymorth ar unrhyw adeg, ffoniwch Linell Gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 62 2900.