Cipluniau Pynciol
Adnoddau pwnc-benodol ar gyfer ysgolion / colegau a myfyrwyr ôl-16.
Manteisiwch ar y cyfle hwn i ymchwilio i rai meysydd pwnc unigryw a diddorol sy'n berthnasol i'r cwricwlwm ysgol ôl-16, a ddarperir i chi gan ein adrannau academaidd y brifysgol.
Busnes
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall Ysgol Fusnes Aberystwyth gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.
Fideos
Cymerwch olwg ar yf ideo yma sy'n gysylltiedig â'r hyn sydd gan yr ysgol fusnes i'w gynig:
Dyma gyflwyniad gan Jonathan Fry sy’n ddarlithydd yn yr Adran Fusnes. Mae'r cyflwyniad yn trafod “entrepreneuriaith”. Bydd yn rhoi’r siawns i chi ddatblygu nifer o sgiliau megis ymchwilio, dadansoddi, creadigrwydd, asesu ymgyrchoedd marchnata a strategaethau prisio.
Gweithdai
Manteisiwch ar y cyfle i ymweld â rhai gweithdai diddorol megis Dewis Cyfeiriad Strategol, Gwneud Penderfyniadau: Cyllid, Gwneud Penderfyniadau: Marchnata a Gwneud Penderfyniadau: Gweithrediadau ac Entrepreneuriaith. Mae’r rhain i gyd yn addas ar gyfer myfyrwyr lefel TGAU a Safon Uwch. Mae'r deunyddiau hyn, ynghyd â manylion holl adnoddau'r ysgol fusnes ar gyfer myfyrwyr ac ysgolion, i'w gweld ar:
https://users.aber.ac.uk/nar25/Business/homePageCy.html
Taflen gwaith
Edrychwch ar y ddogfen ganlynol sydd yn cynnwys gwahanol dasgiau i chi eu cwblhau mewn perthynas â'r cyflwyniad uchod. Yn ogystal a hyn mae ‘na nifer o ddolenni defnyddiol ynglŷn ag entrepreneuriaeth sydd yn addas i fyfyrwyr ôl-16.
Adnoddau Sesiwn Entrepreneuriaeth Ar-lein
Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Gwyddorau Biolegol
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall IBERS gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.
Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Cyfrifiadureg
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall yr Adran Gyfrifiadureg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.
Gweithdai
Manteisiwch ar y cyfle i wella'ch gwybodaeth gyda'r gweithdai a'r gemau canlynol, gan ymchwilio i wahanol agweddau ar wyddoniaeth gyfrifiadurol: Dylunio ac Argraffu 3D, Biowybodeg, Amgryptio, Dadgryptio, Roboteg a Rhaglennu ar gyfer Dechreuwyr. Mae pob gweithdy yn addas ar gyfer myfyrwyr TGAU a Safon Uwch. Gellir gweld y deunyddiau hyn, ynghyd â manylion holl adnoddau Cyfrifiadureg ar gyfer myfyrwyr ac ysgolion, ar:
https://users.aber.ac.uk/nar25/CompSci/homePageCy.html
Wythnos Roboteg
Rydym yn dathlu Wythnos Roboteg y DU gyda digwyddiadau a gweithgareddau ar-lein ar gyfer pob oedran trwy gydol yr wythnos.
Dydd | Digwyddiad |
---|---|
Dydd Sadwrn | Lab Traeth |
Dydd Sul | |
Dydd Llun | Noson Robotiaid |
Dydd Mawrth | |
Dydd Mercher | Gwaithdy dylunio 3D |
Dydd Iau | Gwaithdy electroneg |
Dydd Gwener | Cwis tafarn am robotiaid |
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad a ble i gofrestru, cliciwch yma
Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys:
Gweithdy/gêm sy’n gysylltiedig â Mathemateg, a deunydd newydd sy’n gysylltiedig â’r gofod.
Am mwy o wybodaeth am yr adnoddau cyfrifiadureg sydd i gael cysylltwch efo Natalie Roberts (E-bost - nar25@aber.ac.uk)
Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall yr Ysgol Addysg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd. Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae:-
Fideos
Cymerwch olwg ar y fideo yma â gyflwynwyd gan Dr Andrew Davies am yr amryw o gyrsiau y gall yr Ysgol Addysg eu cynnig ynghyd â strwythur cyffredinol y cyrsiau:
Cymerwch olwg ar y gyfres ganlynol o fideos a gyflwynwyd gan Dr Andrew Davies sydd wedi’u cynllunio i roi trosolwg o rai o’r egwyddorion sylfaenol i ddechrau cynnal ymchwil eich hunan:
1. Cyflwyniad i gynnal prosiect ymchwil neu ymholi
2. Adolygu’r llenyddiaeth a thystiolaeth
3. Methodoleg a dulliau -
4. Gwneud synnwyr o’r data a ffurfio casgliad -
Rydym yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall yr adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.
Taflenni Gwaith
- Ysgrifennu ac ailysgrifennu'r gorffennol: Pat Barker, Regeneration (1991)
- "He could not escape those very words": Dorothy a William Wordsworth - O'r Dyddiadur i'r Cerddi
- Mesur am Fesur: Drama "Broblem"?
- Gweithdy Dychmygu Iwtopias
- Cynllunio Stori
- Delweddaeth Farddonol
Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall yr Adran Ddaearyddiath a Gwyddorau Daear gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd. Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae:-
Esboniadur daearyddiaeth
Mae’r esboniadur yma yn ddelfrydol er mwyn i chi ymgyfarwyddo â thermau daearyddol Cymraeg:
https://wici.porth.ac.uk/index.php/Categori:Daearyddiaeth
Fideos
Treuliwch ychydig o amser yn gwrando ar y sgwrs ganlynol gan Dr Hywel Griffiths:
Perthynas rhwng gwyddoniaeth a chelfyddid - https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=4209~4p~QezwumJx
Dyma ddarlith, sydd wedi’i chyflwyno gan Sara Penrhyn Jones, am ymchwiliad ar sut mae newid hinsawdd yn cael ei bortreadu gan, ac yn effeithio ar, ddiwylliant un ynys ym Micronesia: Beth yw'r ots gen i am Karibiti-
https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1672~4q~qLPdetUL
Taith Cwm Elan
Ewch ar daith rithiol drwy Gwm Elan. Byddwch yn dysgu am bwysigrwydd yr ardal o safbwynt darparu dŵr ynghyd â nodweddion diddorol eraill, megis geomorffoleg a natur yr ardal, hanes y gymuned leol a nodweddion diwylliannol y cwm. Mae’r gwaith hwn yn berthnasol i thema Cylchred Dŵr yng nghwricwlwm Daearyddiaeth lefel A.
https://www.elanvalley.org.uk/node/248905?language=cy
Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys darlithoedd ar y canlynol:
- Newid Hinsawdd: Achosion ac Ymatebion
- Cynaliadwyedd a Dyfodol y Blaned
- Ymfudo Rhyngwladol - Gwleidyddiaeth ac ideoleg
- Gwlyptiroedd mewn tir sych: tirweddau ac ecosystemau o bwysigrwydd byd-eang
- 10 Rheswm pam bod Geomorffoleg yn Bwysig
- Tirffurfiau a Phrosesau Rhewlifol
- Y Cylch Dŵr a’r Cylch Carbon
- Newid a Datblygu Gwledig
- Y Blaned Drefol
Yn ogystal â'r sesiynau hyn, efallai y gallwn ddatblygu cynnwys pwrpasol i fynd i'r afael â'ch anghenion addysgu penodol. Felly cofiwch gysylltu â ni trwy anfon e-bost at yr Athro Mark Whitehead msw@aber.ac.uk neu Dr Hywel Griffiths hmg@aber.ac.uk
Hanes a Hanes Cymru
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall yr adran Hanes a Hanes Cymru gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.
Cyflwyniadau
Yr Ymerodraeth Brydeinig, a Bywyd ym Mhrydain, 1870-1914?
Milwriaethusrwydd y Swffragetiaid a'r Ymgyrch dros y Bleidlais
E-lyfr
Ffrainc a Chymru, 1830-1880 gan Yr Athro Paul O’Leary -
https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1434~4m~lZFVpgbo
Llyfr ar lein
Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol, gan Friedrich Engels a Karl Marx -
https://www.porth.ac.uk/cy/collection/maniffesto-r-blaid-gomiwnyddol-karl-marx-a-frederick-engels
Rydym yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys yr darlithoedd (Mini) canlynol:
· Propaganda'r Natsïaid
· Dyfodol y Fictoriaid
· Mappa Mundi Henffordd: Mapiau fel Ffynonellau ar gyfer Hanes yr Oesoedd Canol
· Henry VII
Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymroddedig i ddarparu rhaglen o gyswllt allanol gydag ysgolion a cholegau ar draws Cymru a’r DU.
Crewyd y dudalen yma i ddarparu gwybodaeth ar sut allwn ni gyfoethogi beth mae ysgolion a cholegau yn ei gynnig ym maes gwleidyddiaeth, llywodraeth, a chysylltiadau rhyngwladol, fel rhan o’r Fagloriaeth Genedlaethol neu bynciau cysylltiol fel hanes a chymdeithaseg. Gobeitio eu bod hefyd yn rhoi blas o Brifysgol Aberystwyth a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
https://www.aber.ac.uk/cy/interpol/outreach/adnoddauiysgolionacholegau/
Y Gyfraith a Throseddeg
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall Adran y Gyfraith a Throseddeg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd. Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae:-
E-Lyfr
Mae’r e-lyfr hwn yn berffaith i fyfyrwyr ôl-16 sydd â diddordeb mewn cyfraith gyhoeddus: Sylfeini’r Gyfraith Gyhoeddus:
https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=2433~4m~m0FVpgbn
Fideos
Dewch i weld ein fideos yma sydd yn sôn am y cyrsiau mae’r adran yn eu cynnal. Yn ogystal â hyn cewch weld sut brofiad yw bywyd academaidd a chymdeithasol yn Aberystwyth.
Darlithydd – Lowri Wynn Cunnington
Sgwrs am brofiad myfyriwr
Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Mathemateg
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall yr Adran Fathemateg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.
Gweithdai
Mae swigod wedi diddori plant ers canrifoedd, ac yn parhau i wneud. Yn ogystal â hyn mae’n diddori rhai oedolion hefyd! Mae eu strwythur a siâp o ddiddordeb i ymchwilwyr yn y gwyddorau mathemategol, gan gynnwys rhai ohonom ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dewch i edrych ar y dudalen we ryngweithiol hon sy'n archwilio geometreg a siâp swigod o safbwynt mathemategol:
https://users.aber.ac.uk/itd/MATHS-BUBBLES/
Maneisiwch ar ein tudalen allgymorth sy'n cynnwys heriau mathemategol, maes chwarae mathemategol, gweithdai mathemateg a mwy. I gyd wedi'u hanelu at fyfyrwyr ôl 16 ac wedi'i cynllunio i roi dealltwriaeth fwy cyflawn o gysyniadau mathemategol:
https://users.aber.ac.uk/nar25/Maths/homePageCy.html
Llyfr ar-lein
Cyfieithiad gan yr Athro Emeritws Alun O. Morris yw'r llyfr hwn o'i gyfrol Linear Algebra:
https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gsdfgdsfg
Rydym yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys:
- Gwefan ryngweithiol ar ‘Mathemateg gyda swigod’
Ffiseg
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall yr Adran Ffiseg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.
Gweithdai
Manteisiwch ar y cyfle i wella'ch gwybodaeth gyda'r gweithdai canlynol, sydd yn ymchwilio i wahanol agweddau ar astroffiseg (Ffiseg Solar, Cysawd yr Haul, Archwilio Planedau, Yr Ochr Draw i Gysawd yr Haul) a ffiseg faterol (Lluniadau Carbon). Mae'r deunyddiau hyn, ynghyd â holl fanylion ein hadnoddau sy’n seiliedig ar ffiseg ar gyfer myfyrwyr ac ysgolion, i'w gweld ar:
https://users.aber.ac.uk/nar25/Physics/homePageCy.html
Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros yr wythnosau nesaf.
Am mwy o wybodaeth am yr adnoddau cyfrifiadureg sydd i gael cysylltwch efo Natalie Roberts (E-bost - nar25@aber.ac.uk)
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill. Gall yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd, a byddwn yn ychwanegu mwy o gynnwys newydd yn rheolaidd.
Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd mae:
Darlithoedd Enghreifftiol
Dr Lisa Richards yn trafod genrau ffilm, ac yn benodol gwahanol ffilmiau sy'n nodweddu'r genre arddegol:
Dr Roger Owen yn trafod goblygiadau newid hinsawdd ar y broses o greu ac o brofi theatr:
Enghreifftiau o Waith Myfyrwyr
Yn ogystal â’r adnoddau uchod, rydym hefyd yn hynod o falch o allu rhannu enghreifftiau o ffrwyth llafur ein myfyrwyr. Ceir isod drosolwg o waith perfformio a lwyfannwyd gan fyfyrwyr y radd BA Drama a Theatr, ynghyd â gwaith ffilm arobryn myfyrwyr y radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu.
Perfformiadau Myfyrwyr
BA Drama a Theatr Dr Gareth Llŷr Evans yn trafod rhai o’r prif berfformiadau a gynhyrchwyd ar y radd BA Drama a Theatr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ffilmiau Myfyrwyr
BA Astudiaethau Ffilm a Theledu Dwy Chwaer a Brawd: Ffilm arobryn Meleri Morgan sy’n cynnig portread o fywydau dwy chwaer a brawd ar eu fferm yng Ngheredigion:
Aros: Ffilm ffuglen gan Ashley Rhys Evans yn dangos y berthynas rhwng unigolion mewn safle bws:
Yr Hen a Ŵyr: Ffilm ffuglen gan Kameron Harrhy sydd yn ymdrin â dementia
Detholiad o ffilmiau a grëwyd gan fyfyrwyr yn eu hail flwyddyn:
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.
Gall Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd. Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae:-
Fideos
Enghraifft o ymchwil ein myfyrwyr - Rhodri Siôn
Ffilm a gynhyrchwyd gan Rhodri Siôn o Nebo, Llanrwst, a raddiodd mewn Cymraeg Proffesiynol yn 2016. Dyma ffrwyth ei brosiect uchelgeisiol ar gyfer y modiwl israddedig Bro a Bywyd. Derbyniodd y gwaith ganmoliaeth fawr gan yr arholwyr, a dyfarnwyd marc Dosbarth Cyntaf iddo. Mae’r ffilm ‘Cymru Dafydd ap Gwilym’ yn rhoi cyflwyniad eglur a chryno i fywyd a gwaith un o feirdd mawr Cymru ac Ewrop yn yr Oesoedd Canol diweddar.
Enghraifft o ymchwil ein darlithwyr - Dr Rhianedd Jewell
Darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yw Dr Rhianedd Jewell sy’n gweithio yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Ffocws ei hymchwil yw cyfieithu, yn benodol cyfieithiadau llenyddol o ieithoedd Ewropeaidd i’r Gymraeg. Dim ond dau gyfieithydd Cymraeg sydd wedi mynd i’r afael â dramâu abswrdaidd Samuel Beckett, a’r ddau’n feirdd, dramodwyr ac awduron Cymraeg adnabyddus eu hunain: Gwyn Thomas a Saunders Lewis. Mae dadansoddiad manwl o’u cyfieithiadau o Beckett yn dangos sut yr aethant ati i addasu’r dramâu Ffrangeg i gynulleidfa Gymraeg, gan eu gwneud yn ddiwylliannol ac ieithyddol Gymraeg. Fodd bynnag, roedd un o’r cyfieithwyr hyn yn llai ffyddlon wrth gyfieithu’r gwaith gwreiddiol na’r llall, gyda’r ddrama Gymraeg ddilynol yn sylweddol wahanol i greadigaeth Beckett. Mae’r ddarlith hon yn ystyried cwestiynau fel ‘i ba raddau y dylai cyfieithydd ddewis addasu darn’ a ‘beth mae’r dewisiadau hyn yn ei ddysgu i ni am y cyfieithydd?’
Dogfennau Defnyddiol
- Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf): 'Help Llaw gydag astudio Martha, Jac a Sianco' gan Bleddyn Owen Huws
- Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf): 'Nodiadau ar Un Nos Ola Leuad, gan Caradog Prichard' gan Bleddyn Owen Huws
- 'Nodiadau "Newyddion" - Tudur Dylan Jones' gan Cathryn Charnell-White
E-lyfr
Dyma’r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau’r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg.
Mae’n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg.. Yn ogystal â throsi’r gwaith i’r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi’i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i’w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae’n cynnwys disgrifiadau manwl o’r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae’r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i’r Cymry ddod i adnabod rhai o’r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith.
https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1411~4h~GDh5Q67L
Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.