Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt

Image with the text

Cyfres o weminarau - Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt.

Yn y gyfres o weminarau Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt, mae pob digwyddiad yn canolbwyntio ar faes pwnc penodol i gyflwyno'r penderfyniadau y mae angen eu gwneud cyn dewis cwrs gradd, y cyfnod astudio ei hun a sut mae cyn-fyfyrwyr y Brifysgol wedi llwyddo y tu hwnt i astudio'r cwrs.

I archebu lle neu i ddysgu mwy am ein weminarau, cliciwch ar y dolenni isod. 

Weminarau ar y Gweill

Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

11 Mehefin - 11:00-12:00 - COFRESTRWCH YMA

Bydd y sesiwn hon yn cynnig cyflwyniad byr i’r cyrsiau gradd amrywiol ym meysydd gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol sy’n cael eu cynnig gan Brifysgol Aberystwyth. Rhoddir sylw i’r amrywiaeth o fodiwlau diddorol y mae modd eu hastudio, y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg helaeth sydd ar gael a hefyd y cyfleoedd allgyrsiol eang, gan gynnwys y Cynllun Cyfnewid Seneddol a hefyd y gemau Argyfwng poblogaidd.

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys sgwrs gyda dau o gyn-fyfyrwyr yr adran. Bydd cyfle i’w holi ynglŷn â’r math o yrfaoedd maent wedi’u datblygu ar ôl graddio a sut y mae’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt wrth astudio gwleidyddiaeth wedi bod o gymorth.

Troseddeg

25 Mehefin - 11:00-12:00 - COFRESTRWCH YMA

 

Trefn y Weminar - 

11:00 - Cyflwyniad

11:05 - Astudio Troseddeg- Beth i’w ddisgwyl

11:20 - Profiad Myfyrwyr o farn cyn fyfyriwr yn Aberystwyth

11:30 - Blas ar pwnc – Beth yw Troseddeg?

11:50 - Sesiwn Rhyngweithiol cwestiwn ac ateb

Weminarau Wedi'u Recordio

Busnes

Cyn: Swyddog Denu Myfyrwyr yn esbonio beth yw’r amrywiaeth o yrfaoedd sydd yn bosib.

Yn Ystod: Aelod o Staff o Ysgol Fusnes Aberystwyth i gyflwyno’r YFA, y modiwlau cyfrwng Cymraeg a’r amrywiaeth o ddisgyblaethau sydd ar gael. 

Tu Hwnt: Ein cyn-fyfyriwr Llion o gwmni Y Gorau o Gymru / Best of Wales a Steffan o Galeri Caernarfon yw ein gwesteion am y sesiwn Cwestiwn ac Ateb hon.

Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

Recordiad yn dod yn fuan.

Bu'r sesiwn hon yn cynnig cyflwyniad byr i’r cyrsiau gradd amrywiol ym meysydd gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol sy’n cael eu cynnig gan Brifysgol Aberystwyth. Rhoddir sylw i’r amrywiaeth o fodiwlau diddorol y mae modd eu hastudio, y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg helaeth sydd ar gael a hefyd y cyfleoedd allgyrsiol eang, gan gynnwys y Cynllun Cyfnewid Seneddol a hefyd y gemau Argyfwng poblogaidd.

Bu'r sesiwn hefyd yn cynnwys sgwrs gyda dau o gyn-fyfyrwyr yr adran. Bydd cyfle i’w holi ynglŷn â’r math o yrfaoedd maent wedi’u datblygu ar ôl graddio a sut y mae’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt wrth astudio gwleidyddiaeth wedi bod o gymorth.

Cymraeg

2 Gorffennaf - 11:00-12:00 - COFRESRWCH YMA

Manylion llawn i ddod yn fuan

Ffiseg

13 Gorffennaf - 11:00-12:00 - COFRESTRWCH YMA

Cyn: cyflwyniad gan Robin Lovatt – Paratoi Myfyrwyr i astudio Ffiseg yn y Brifysgol gan edrych ar elfennau fel Datganiad Personol ac Ymchwilio Cyrsiau.

Yn Ystod: cyflwyniad gan Dr Huw Morgan – siarad am beth i’w ddisgwyl wrth astudio Ffiseg yn y Brifysgol drwy ganolbwyntio ar y gwahanol fodiwlau, cyfleusterau ac offer sydd ar gael yn yr adran.

Tu Hwnt: cyfweliad efo Liam Edwards, cyn-fyfyriwr Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddwn yn sgwrsio am amser Liam yn y Brifysgol, sut mae Liam yn defnyddio Ffiseg yn ei yrfa bresennol a chynlluniau Liam am ei dyfodol yn y sector Ffiseg.