Athrawon, Cynghorwyr, Rhieni a Chefnogwyr

Ffair Wythnos Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth - disgyblion yn ymweld â stondin gwyddonol.

Mae ein Tîm Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad yn darparu cyngor ac arweiniad addysg uwch.

Gall aelodau o'n tîm ymweld â'ch ysgol neu goleg (wyneb yn wyneb neu ar-lein) yn rhad ac am ddim i siarad am bob agwedd o wneud cais i addysg uwch.  Mae'r tîm yn teithio ledled y DU ac maent ar gael drwy gydol y flwyddyn i gefnogi myfyrwyr, cynghorwyr a rhieni.  

P'un a ydych am i ni ddod atoch chi neu y byddai'n well gennych weld ein cyfleusterau yn y Brifysgol, mae ein tîm yma i roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am symud ymlaen i addysg uwch.

Rydym yn annog penderfyniadau gwybodus, felly edrychwch ar yr adrannau hyn i weld sut y gallwn helpu.