Strategaeth Ehangu Mynediad

Strategaeth Ehangu Mynediad - 2022-26

Mae Strategaeth Ehangu Mynediad 2022-2026 yn egluro blaenoriaethau Prifysgol Aberystwyth ar gyfer ymateb i’r ymrwymiad yng Nghynllun Strategol 2018 – 2023 i wella mynediad at addysg uwch ac annog cyfranogiad a gweithgareddau cydweithredol drwy bartneriaethau helaeth.

Mae’r strategaeth yn cyd-daro ac yn cefnogi nodau a gwaith Cynlluniau Ffioedd a Mynediad 2022-2023 a Chynlluniau Rhaglen Ymestyn yn Ehangach 2020/21 i 2022/23. 

Rydym ni’n falch o’n gwaith yn ehangu mynediad ac wedi buddsoddi’n sylweddol i annog pobl ifanc o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn Addysg Uwch i ehangu eu dyheadau. Mae cymorth derbyniadau wedi’i dargedu, digwyddiadau ysgol/coleg arloesol, gwell mynediad i’n hystâd, buddsoddi mewn offer dysgu ac addysgu i gefnogi anghenion dysgu a chymorth ymarferol i wella cyfraddau cadw, wedi arwain at well cyfranogiad ar draws sawl grŵp. Rydym ni wedi gwella ein prosesau derbyn i sicrhau bod recriwtio’n deg ac wedi gweithio i ddileu rhwystrau ble bynnag rydym ni’n eu gweld, boed y rheiny’n ariannol, cysyniadol neu ffisegol.

Byddwn yn parhau gyda’r gwaith hwn drwy’r cynlluniau a amlinellir uchod a thrwy’r Strategaeth Ehangu Mynediad hwn.

Ein Cynulleidfaoedd Targed

Rydym yn cydnabod nad oes gan y grwpiau canlynol gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch a/neu fod angen cymorth ychwanegol arnynt:

  • Myfyrwyr o ardaloedd lle nad yw’n debygol fod gan deuluoedd gefndir blaenorol mewn AU
  • Myfyrwyr yn y cwantil gwaelod mewn ardaloedd cynnyrch ehangach is ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • Myfyrwyr o deuluoedd incwm isel
  • Myfyrwyr ag anableddau
  • Myfyrwyr o gefndir gofal neu sydd wedi dieithrio o’u teuluoedd, ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr
  • Myfyrwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig
  • Myfyrwyr Aeddfed
  • Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol a Chwîar (LHDTC)
  • Myfyrwyr Cyfrwng Cymraeg
  • Myfyrwyr â phlant
  • Myfyrwyr yn perthyn i grefydd neu gred
  • Ceiswyr Lloches / Carcharorion 

Nodau ac Amcanion y Strategaeth 

Amcanion Ehangu Mynediad -

  1. Gweithio gydag ysgolion a cholegau i godi dyheadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch
  2. Chwalu rhwystrau at ymgeisio ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch
  3. Gweithio’n agos gyda phartneriaid rhanbarthol i gyflenwi nodau Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach
  4. Gweithio’n agos gyda chyrff allanol i barhau i godi dyheadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch, drwy amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau
  5. Datblygu darpariaeth sy’n cefnogi dilyniant
  6. Darparu gwasanaethau cymorth sy’n gwella cyfraddau cadw myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch a datblygu gwasanaethau newydd mwy addas i’w hanghenion.

1. Gweithio gydag Ysgolion a Cholegau

Gweithio gydag ysgolion a cholegau i godi dyheadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.

1.1 - Darparu sgyrsiau, gweithgareddau a gweithdai wedi’u targedu at bobl ifanc a nodwyd eu bod mewn perygl o gyflawni’n isel.
1.2 - Cyflwyno gweithgareddau cyfoethogi pwnc-benodol i fyfyrwyr yng Nghymru ac yng ngweddill y DU
1.3 - Cyfoethogi darpariaeth barhaus i godi ymwybyddiaeth o AU gyda grwpiau oedran cynradd mewn ysgolion a chymunedau wedi’u targedu lle ceir anfantais uchel
1.4 - Cyfoethogi ein darpariaeth Ehangu Cyfranogiad bresennol gan ganolbwyntio ar ysgolion/colegau targed

2. Chwalu Rhwystrau

Chwalu rhwystrau at ymgeisio ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.

2.1 - Gweithio’n barhaus i wella ein polisi a’n gweithdrefnau derbyn cyd-destunol. Bydd ymgeiswyr cymwys yn derbyn ystyriaeth arbennig, fel cynnig is na’r hyn a gyhoeddir yn ein meini prawf mynediad safonol
2.2 - Cyflwyno sesiynau cyngor ac arweiniad mewn ysgolion a cholegau mewn ardaloedd difreintiedig, gan gynnwys sesiynau ffug-gyfweliad a chyflwyniadau e.e. proses ymgeisio UCAS, Ysgrifennu Datganiad Personol, Cyllid Myfyrwyr a Bywyd Myfyrwyr.
2.3 - Darparu cymorth teithio a llety dros nos i alluogi myfyrwyr i ddod i weithgareddau ar y campws e.e. Diwrnodau Agored Israddedig ac Uwchraddedig a Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr
2.4 - Gwella ein rhaglenni bwrsariaethau a dyfarniadau’n barhaus, gan fonitro’r effaith ar fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (h.y. y rhai sy’n Gadael Gofal, Ysgoloriaethau Partneriaeth Ysgol/Coleg ac ati)
2.5 - Lansio rhaglen newydd Aber Ar Agor i ddysgwyr Ehangu Cyfranogiad ôl-16 a dargedir

3. Gweithio gyda Phartneriaid

Gweithio’n agos gyda phartneriaid rhanbarthol i gyflenwi nodau Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach.

3.1 - Gweithio’n agos gyda’n Partneriaid Ymestyn yn Ehangach i sicrhau ymagwedd gydlynol at ddarpariaeth Ymestyn yn Ehangach ledled y rhanbarth
3.2 - Cyflwyno’r gweithgareddau a nodir yng Nghynlluniau Rhaglen Ymestyn yn Ehangach 2021/22 i 2022/23 a thu hwnt.

4. Gweithio gyda Chyrff Allanol

Gweithio’n agos gyda chyrff allanol i barhau i godi dyheadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch, drwy amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau.

4.1 - Bydd gweithredu’r strategaeth hon yn llwyddiannus yn golygu cydweithio a gwaith partneriaeth. Byddwn yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid strategol i gefnogi ein gweithgareddau ehangu cyfranogiad. Mae ein partneriaid yn cynnwys:

  • Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach
  • Rhwydwaith Seren
  • Nuffield Project
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Scarlets (Gwaith Cymunedol)
  • Llywodraeth Cymru – Senedd
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Go Wales
  • Gŵyl y Gelli
  • CREDU, Connecting Carers
  • Gyrfaoedd Ceredigion
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • CLASS Cymru (Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal a Myfyrwyr Cymru) 

5. Datblygu Darpariaeth

Datblygu darpariaeth sy’n cefnogi dilyniant.

5.1 - Datblygu a chyfoethogi llwybrau amgen i Brifysgol Aberystwyth drwy barhau i ddatblygu ein Rhaglen Sylfaen
5.2 - Gweithio gyda phartneriaid allanol i greu cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch yng Nghymru.   
5.3 - Gweithio ar draws y brifysgol i gynnig dysgu o bell a chyfunol i ehangu cyfle, cyflawniad a chyrhaeddiad.

6. Darparu Gwasanaethau Cymorth

Darparu gwasanaethau cymorth sy’n gwella cyfraddau cadw myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch a datblygu gwasanaethau newydd mwy addas i’w hanghenion.

6.1 - Monitro a gwella ein rhaglen bwrsariaethau a dyfarniadau’n barhaus, gan fonitro effaith hyn ar fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
6.2 - Adolygu a rhoi cyhoeddusrwydd i gyllid caledi (mynediad at gronfa ddewisol sy’n darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n profi anawsterau ariannol).  
6.3 - Gweithio’n barhaus i wella’r gefnogaeth a gynigir i fyfyrwyr sy’n nodi bod ganddynt anabledd neu gyflwr iechyd meddwl
6.4 - Ehangu ar y cyfle ar gyfer ymgysylltu mentora cymheiriaid gan gefnogi pontio cadarnhaol i Brifysgol Aberystwyth. 
6.5 - Darparu cymorth lles i fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn abl i gyflawni eu potensial academaidd 

Monitro a Gwerthuso

Mae datblygiadau strategaeth a gweithredu’n cael eu llywio’n barhaus gan ddata. Caiff y data ei gasglu drwy amrywiaeth eang o sianeli gan gynnwys:

  • Derbyniadau – data ar gyfraddau ymgeisio, cyfraddau cynnig, trosi
  • Y Swyddfa Gynllunio – meincnodi’r sector (e.e. drwy HESA)
  • Recriwtio Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad - cyfraddau ymgeisio, gwasgariad daearyddol ymgeiswyr. Gwerthuso pob digwyddiad (e.e. dyddiau Bagloriaeth Cymru, ysgolion ar y campws, Aber Ar Agor, Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr)
  • Marchnata - adroddiadau data marchnata Digidol, dadansoddi traffig gwe a chyfryngau cymdeithasol, adroddiadau gwybodaeth y farchnad i lywio ymgyrchoedd hysbysebu
  • Rydym ni’n ystyried ymuno â’r Traciwr Mynediad Addysg Uwch (HEAT) sy’n wasanaeth i sicrhau gwell gwybodaeth am lwybrau dilyniant myfyrwyr ysgol a choleg sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau allgymorth.

i. Gweithio gydag Ysgolion a Cholegau

Gweithio gydag ysgolion a cholegau i godi dyheadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.

  • Lleihau’r bwlch mynediad rhwng ymgeiswyr o Gwantil 5 a Chwantil 1 POLAR
  • Casglu data ar y rheiny o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Cylch rheolaidd o archwilio yn erbyn ein gweithgareddau ehangu mynediad

ii. Chwalu Rhwystrau

Chwalu rhwystrau at ymgeisio ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.

  • Byddwn yn annog ehangu mynediad at astudio, drwy gael llwybrau mynediad teg a hyblyg, yn cynnig cymwysterau amrywiol. Caiff ein myfyrwyr eu grymuso i lwyddo beth bynnag yw eu cefndir personol a chymdeithasol.
  • Adolygu’n strategol ac adnewyddu’r ddarpariaeth ysgoloriaethau/bwrsariaethau’n barhaus i sicrhau ei bod yn parhau i gefnogi myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sydd ei hangen fwyaf.
  • Byddwn yn gweithio i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n mynychu Aber Ar Agor bob blwyddyn.

iii. Gweithio gyda Phartneriaid

Gweithio’n agos gyda phartneriaid rhanbarthol i gyflenwi nodau’r Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach.

  • Cynyddu nifer y cyfleoedd addysgol.

iv. Gweithio gyda Chyrff Allanol

Gweithio’n agos gyda chyrff allanol i barhau i godi dyheadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch, drwy amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau.

  • Byddwn yn monitro ac yn asesu’r holl weithgareddau allgymorth gyda chyrff allanol ac yn tracio gwelliannau blynyddol o ran ymgysylltu.

v. Datblygu Darpariaeth

Datblygu darpariaeth sy’n cefnogi dilyniant.

  • Datblygu modiwlau sgiliau astudio wedi’u teilwra i anghenion codi hyder grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gyda’r Cymorth Parodrwydd Gyrfaoedd.
  • Sefydlu llwybr clir a thryloyw i’r brifysgol i fyfyrwyr sy’n astudio amrywiol gymwysterau mewn amrywiol leoliadau.
  • Cynnal cymorth y Gwasanaeth Gyrfaoedd i fyfyrwyr sydd angen cymorth gyda CV, ffurflenni cais, cyfweliadau, profiad gwaith a lleoliadau gwaith.
  • Byddwn yn edrych ar gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n Gadael Gofal, yn Ofalwyr Ifanc ac wedi’u Dieithrio sy’n parhau â gradd Uwchraddedig.

vi. Darparu Gwasanaethau Cymorth

Darparu gwasanaethau cymorth sy’n gwella cyfraddau cadw myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch a datblygu gwasanaethau newydd mwy addas i’w hanghenion.

  • Cynyddu nifer y myfyrwyr o gefndir gofal.
  • Tiwtoriaid Personol i gefnogi myfyrwyr yn academaidd.
  • Cynllun Mentora Cyfeirio yn darparu cyngor cyfrinachol am ddim ar bob agwedd ar fywyd prifysgol.
  • Byddwn yn ceisio cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n derbyn y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).

Bydd ein dangosyddion perfformiad craidd yn darparu mesur o gynnydd ar gyfer pob blaenoriaeth strategol.

Cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Israddedig llawn amser aeddfed yn hanu o’r DU blynyddoedd mynediad 2015/16 i 2020/21

Nifer yn dod o gymdogaethau cyfranogiad isel

Canran yn dod o gymdogaethau cyfranogiad isel

Meincnod (%)

Gwyriad safonol  (%)

Targed 2023/24
155 12.0 12.6 -0.88 13%

 

Myfyrwyr sy’n derbyn Lwfans Anabledd Myfyrwyr (DSA)
Nifer yn derbyn DSA Canran yn derbyn DSA (%) Meincnod (%) Gwyriad safonol (%) Targed 2023/34
510 11.8 8.0 +0.88 12%

Targedau 2022 - 2026

  • Gwella ffigur meincnodi HESA o gymdogaethau cyfranogiad isel. Meincnod cyfredol: 12.6%
  • Cefnogi ceisiadau, trosi, dilyniant a chadw carfan benodol o fyfyrwyr Ehangu Mynediad
  • Cynnal y ganran o fyfyrwyr sy’n derbyn y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).