Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach

myfyrwyr yn gweithio mewn grwp.

Codi Ymwybyddiaeth - Codi Dyheadau - Codi Cyrhaeddiad

Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru, prosiect ag ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Cenhadaeth y prosiectau cydweithredol yw ymgysylltu â phobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed ac oedolion 21 oed a throsodd sydd heb gymwysterau Addysg Uwch ac yn dod o ardaloedd sydd yn nau chwintel isaf Mynegrif Amddifadedd Lluosog Cymru.

 Rydym hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc a gofalwyr profiadol o bob rhan o'r rhanbarth.

Cenhadaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yw ehangu mynediad trwy gynyddu nifer grwpiau blaenoriaeth Ymestyn yn Ehangach o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru na fyddent fel arall wedi ystyried mynd i addysg uwch.

Pwrpas Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yw:

  • Ehangu mynediad i Addysg Uwch lefel 4 gydag amrywiaeth o ddulliau a mecanweithiau cyflwyno, gan weithio ar draws meysydd amddifadedd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru gydag amrywiaeth o ddarparwyr.
  • Lleihau’r rhwystrau i fynediad at addysg uwch a chynyddu dyheadau addysgol unigolion a thrwy hynny eu helpu i lwyddo ar addysg uwch lefel 4.

Rhoddir blaenoriaeth i’r grwpiau a nodwyd gan HEFCW sef:

Unigolion a grwpiau sy’n byw yn nau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru sef y 40% isaf o boblogaeth Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Yn y meysydd hyn, byddwn yn canolbwyntio ar nodi ac ymwneud â:

  • Phobl ifanc sydd yn eu blynyddoedd olaf yn yr ysgol gynradd hyd at Gyfnod Allweddol 4 (16 oed) sydd yn y 40% isaf o boblogaeth Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • Oedolion dros 21 oed nad oes ganddynt gymhwyster lefel 4 sydd yn y 40% isaf o'r boblogaeth Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • Unigolion gyda phrofiad o ofal o bob grŵp oedran
  • Gofalwyr o bob grŵp oedran

Ymestyn yn Ehangach: Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru: Hysbysiad Preifatrwydd